Ewch i’r prif gynnwys

Rhybudd ar gyfer cronfeydd dŵr daear y byd

21 Ionawr 2019

Groundwater

Gallai cenedlaethau'r dyfodol wynebu 'bom amser' amgylcheddol os yw newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar gronfeydd dŵr daear hanfodol y byd.

Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd a thîm o gydweithwyr rhyngwladol wedi cynnig cipolwg ar lefel fyd-eang i'r hyn fydd yn digwydd os bydd newidiadau i sut caiff ein systemau dŵr daear eu hadnewyddu.

Mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Climate Change, mae'r tîm ymchwil wedi dangos y gallai gymryd dros 100 mlynedd i systemau dŵr daear ymateb yn llawn i'r newid amgylcheddol presennol mewn mwy na hanner o systemau dŵr daear y byd.

Dŵr daear, a leolir o dan y ddaear yn yr holltau a'r mandyllau mewn pridd, tywod a chraig, yw'r ffynhonnell fwyaf o ddŵr croyw y gellir ei defnyddio yn y byd. Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn dibynnu arno fel ffynhonnell dŵr yfed a dŵr dyfrhau.

Mae ffynonellau dŵr daear yn cael eu hailgyflenwi yn bennaf trwy'r glaw mewn proses a elwir yn ail-lenwi. Ar yr un pryd, mae dŵr yn gadael neu'n gollwng o ffynonellau dŵr daear i lynnoedd, nentydd a chefnforoedd er mwyn cynnal cydbwysedd cyffredinol.

Os bydd newid yn y broses o ail-lenwi, er enghraifft oherwydd gostyngiad mewn glaw o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bydd lefelau dŵr yn y ddaear yn dechrau newid hyd nes y bydd yn cyrraedd cydbwysedd newydd.

Fodd bynnag, mae cwestiynau'n parhau o hyd ynghylch sut y bydd dŵr yn cael ei effeithio'n benodol gan newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a ble a phryd bydd unrhyw newidiadau yn digwydd.

Dywedodd prif awdur yr ymchwil, Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Ymchwil Dŵr: “Mae ein hymchwil yn dangos bod systemau dŵr daear yn cymryd llawer mwy o amser i ymateb i newid yn yr hinsawdd na dŵr arwyneb, gyda dim ond hanner llifoedd dŵr daear y byd yn ymateb yn llawn o fewn hyd oes 'dynol' o 100 mlynedd.

"Mae hyn yn golygu y gallai newidiadau mewn llifoedd dŵr daear oherwydd newid yn yr hinsawdd mewn sawl rhan o'r byd gael effaith dros gyfnod hir iawn. Gellid disgrifio hyn fel bom amgylcheddol oherwydd bydd unrhyw newid yn yr hinsawdd sy’n effeithio ar ail-lenwi nawr ond yn effeithio'n llawn ar y llif ôl-rediad i afonydd a thir gwlyb mewn amser maith.

Mae'n hanfodol eu bod yn cydnabod posibiliadau’r effeithiau cudd hyn wrth ddatblygu polisïau rheoli dŵr, neu strategaethau i addasu i'r newid hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dr Mark Cuthbert Research Fellow and Lecturer

Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd yr ymchwilwyr ganlyniadau model dŵr daear mewn cyfuniad â setiau data hydrolegol i bennu'r amserlenni dynamig o ran sut mae systemau dŵr daear yn ymateb i newid hinsawdd.

Daeth i’r amlwg y gall dŵr daear mewn lleoliadau gwlypach a mwy llaith ymateb i newid yn yr hinsawdd ar raddfa amser llawer byrrach, tra bod dŵr daear yn ymateb yn arafach mewn lleoliadau lle mae dŵr yn fwy prin yn naturiol.

Mae nodi lleoliadau yn bwysig oherwydd mewn sawl rhan o'r byd, yn enwedig lle mae llai o gyflenwadau dŵr wyneb ar gael, dim ond trwy ddefnyddio'r dŵr o dan y ddaear y gellir diwallu eu hanghenion am ddŵr domestig, amaethyddol a diwydiannol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.