Ewch i’r prif gynnwys

Gweledigaethau am ddyfodol dinas yn India

18 Ionawr 2019

Future visions for an Indian city

Mae Myfyrwyr Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch/ RIBA Rhan 2) o uned y stiwdio Trefolaeth Hwylus yn gweithio gyda thîm Dinas Glyfar Mangalore i ganfod cyfeiriadau datblygu trefol ar gyfer dyfodol dinas Mangalore yn India sy'n hwylus, yn gynaliadwy ac yn glyfar.

Teithiodd yr Uned Trefolaeth Hwylus, yn cynnwys 10 myfyrwyr yn eu 5ed flwyddyn ynghyd ag arweinydd yr uned Dr Shibu Raman, i ddinas Mangalore yn ne India ym mis Tachwedd 2018 i ymgymryd ag arolygon manwl a mapio'r ddinas a'i photensial.

Gweithiodd y myfyrwyr ochr yn ochr â thîm Dinas Glyfar Mangalore Cyfyngedig. Eu nod oedd yr un â nod yr uned, sef datblygu cynigion ar sail tystiolaeth ar gyfer dyluniadau fyddai’n gwneud Mangalore yn fwy clyfar, hwylus a chynaliadwy.

Dywedodd Dr Shibu Raman, arweinydd yr uned: “Rydym yn canolbwyntio ar rai o’r agweddau sydd wedi codi fel themâu allweddol yn y data o Mangalore a’r cynnig Dinas Glyfar, a drwy siarad â rhanddeiliaid hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys: iechyd a lles, symudedd cymdeithasol ac economaidd, symudedd go iawn sy'n effeithlon a chynaliadwy, a mabwysiadu llwybr datblygu amgylcheddol gynaliadwy.”

Yn ystod eu harhosiad ym Mangalore, cynhaliodd y myfyrwyr astudiaethau arsylwi ar wahanol rannau o'r ddinas, cynhaliwyd ymgynghoriadau cyhoeddus gyda Mangaloriaid ynghyd â chyfarfod ag amrywiol randdeiliaid yn natblygiad trefol Mangalore, fel arweinwyr diwydiant, gweithwyr iechyd proffesiynol, timau seilwaith trafnidiaeth, timau rheoli trefol a datblygwyr eiddo tiriog. Hefyd bu'r myfyrwyr yn mesur ac yn mapio ffurf ffisegol y ddinas a'i mannau gwag. Drwy arsylwi eu nod yw canfod ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd brys a newydd y mae'r ddinas yn eu hwynebu. Defnyddiodd y myfyrwyr dechnolegau a dulliau arloesol a nodwyd neu a ddatblygwyd ganddynt yn yr wythnosau cyn teithio i India er mwyn datblygu mapiau a setiau data i ddeall cymhlethdodau a systemau dinasoedd India.

Yn ogystal â gweithio gyda Thîm Dinas Glyfar Mangalore Cyfyngedig, mae'r Stiwdio Trefolaeth Hwylus hefyd yn cydweithio'n agos gyda phartner Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn India, sef Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth Delhi Newydd a'u stiwdio MArch (Dylunio Trefol) dan arweiniad yr Athro Arunava Dasgupta. Nod y cydweithio hwn yw cyfnewid syniadau a rhannu data rhwng unedau stiwdio yng Nghaerdydd a Delhi a rhoi profiad stiwdio rhyngwladol i'r ddau grŵp o fyfyrwyr tra bo tîm Dinas Glyfar Mangalore yn cael budd o'r ymchwil a'r syniadau y mae'r ddwy uned stiwdio wahanol yn eu cynhyrchu yn ystod y flwyddyn academaidd hon.

Caiff yr uned Trefolaeth Hwylus gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (Divya Hegde a Steve Davis), Gweinyddiaeth Dosbarth De Kannada (Sasikanth Senthil, Comisiynydd Dosbarth) a Mangalore Smart City Limited (Mithun Raj)  yn ystod y daith astudio ac yn y gwaith stiwdio.

Rhannu’r stori hon