Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr lenyddol i ddarlithydd

24 Medi 2015

Dr Rhiannon Marks o Ysgol y Gymraeg
Dr Rhiannon Marks o Ysgol y Gymraeg

Mae Dr Rhiannon Marks, Darlithydd a Thiwtor Derbyn yr Ysgol, wedi ennill Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith am ei chyfrol academaidd gyntaf ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: golwg ar waith Menna Elfyn. Dyfernir y wobr am y gwaith gorau yn y Gymraeg ar lenorion Cymraeg, arlunwyr Cymreig neu grefftwyr Cymreig.

Cyfrol o feirniadaeth lenyddol arbrofol yw hon sy'n cynnig dehongliadau theoretig amrywiol o waith Menna Elfyn, gan arbrofi am y tro cyntaf yn y Gymraeg â dull beirniadaeth epistolaidd, sef cyfres o lythyrau dychmygol.  Dyma’r ymdriniaeth estynedig gyntaf o farddoniaeth Menna Elfyn ond edrychir hefyd ar nifer o faterion cyfoes fel cyfieithu, perfformio a marchnata llenyddiaeth yn y Gymru sydd ohoni.

Yn ôl yr Athro Angharad Price yn ei hadolygiad yn Llên Cymru: “Y mae hon yn gyfrol sy’n torri tir newydd yn hanes beirniadaeth lenyddol Gymraeg […] mae arddull arbennig y gyfrol hon, a’r wybodaeth a’r deallusrwydd sy’n sylfaen iddi, yn taflu golau newydd ar ein harferion darllen a’n perthynas â gwaith un o’n beirdd cyfoes mwyaf arwyddocaol, mewn modd ffres, gwreiddiol a chofiadwy.”

Mae myfyrwyr yr Ysgol yn elwa o arbenigedd Rhiannon Marks mewn amryw o fodiwlau ar lenyddiaeth gyfoes a theori a beirniadaeth lenyddol.

Rhannu’r stori hon