Ewch i’r prif gynnwys

Deall sut i dyfu

15 Ionawr 2019

Image of flower

Mae prosiect ymchwil newydd dan arweiniad y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer tyfu a chynhyrchu bwyd, ar adeg o bwysau na welwyd ei debyg ar y dimensiynau hanfodol hyn o'n system fwyd.

Wrth i'r DU adael yr UE, un o'r heriau sy'n achosi pryder cyhoeddus a gwleidyddol yw pwy fydd yn tyfu ac yn dewis y cynnyrch ffres a dyfir yn y DU. Mae'r cyfryngau wedi nodi'r risg o weld cnydau yn pydru mewn caeau ac ar goed oherwydd prinder llafur a gyflenwir fel arfer gan ddinasyddion tramor ac ymfudwyr o’r UE. Amlygiad tymor byr o broblemau hirdymor yn unig yw’r argyfwng posibl hwn.

Ers mwy na degawd mae'r diwydiant bwyd-amaeth wedi bod yn nodi bod prinder pobl sydd â’r sgiliau i weithio mewn garddwriaeth, ac yn herio diffyg buddsoddi mewn ymchwil a datblygu angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y diwydiant yn parhau'n gystadleuol yn rhyngwladol. Amlygodd ymchwiliad Seneddol diweddar  fod data sy'n nodweddu'r broblem yn annigonol, gyda'r llywodraeth a rhanddeiliaid yn anghytuno ynghylch dibyniaeth gyfredol y sector ar lafur tymhorol ac ymfudol.

Prosiect newydd o’r enw ‘Deall sut i dyfu: Cryfhau sgiliau cynhyrchu bwyd sy’n deillio o blanhigion’ yw’r prif brosiect gyntaf o dan arweiniad gwyddoniaeth gymdeithasol yn y DU sy'n ymdrin â'r materion hyn.  Bydd ymchwil yn ystyried sut i fodloni gofynion gwybodaeth ar gyfer cadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu garddwriaethol. Bydd yn tynnu ar brofiadau rhyngwladol ac arbenigedd rhanddeiliaid i lywio strategaethau er mwyn gwella diogelwch bwyd yng Nghymru a thu hwnt. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, academyddion a llunwyr polisi, ei nod yw datgelu’r ffactorau llwyddiant sydd eu hangen i drawsnewid y sgiliau a addysgir yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Hannah Pitt, "Mae gwybodaeth a sgiliau yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod y diwydiant yn parhau i gynhyrchu digon o fwyd, ond nid yw'r dimensiynau hyn o gryfhau sgiliau wedi cael llawer o sylw academaidd. Drwy ddod â phobl o'r diwydiant ac ymchwilwyr ynghyd, dylai'r prosiect hwn ddod â safbwynt newydd. Gyda lwc, bydd hyn yn llunio dewisiadau arloesol ar gyfer y dyfodol." Ychwanegodd "rydym yn awyddus i gynnwys rhanddeiliaid o'r sector trwy gydol cyfnod y prosiect, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw".

Bydd y prosiect yn para am dair blynedd a chaiff ei ariannu’n rhannol gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon