Ewch i’r prif gynnwys

Jo Johnson yn cyhoeddi arian newydd ar gyfer labordy mellt

23 Medi 2015

Jo Johnson, Universities and Science Minister with Professor Colin Riordan, Vice-Chancellor and Professor Manu Haddad, Director of the University’s Morgan-Botti Lightning Laboratory
Jo Johnson, Universities and Science Minister with Professor Colin Riordan, Vice-Chancellor and Professor Manu Haddad, Director of the University’s Morgan-Botti Lightning Laboratory

Ymrwymo £2.6 miliwn i brosiect peirianneg arloesol yn ystod ymweliad y Gweinidog â Chaerdydd

Heddiw, mae Gweinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson, wedi ymrwymo £2.6 miliwn i brosiect o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, i ddatblygu ffyrdd newydd o amddiffyn awyrennau modern rhag mellt.

Cynhelir prosiect ymchwil PROTEST, sydd hefyd o dan arweiniad Airbus, yn Labordy Mellt Morgan-Botti, sydd newydd ei ail-ddylunio. Ei nod fydd deall ffenomen a ffiseg y mecanweithiau sy'n gysylltiedig â chymalau awyrennau wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau carbon cyfansawdd.

Roedd awyrennau'n cael eu gwneud o alwminiwm yn bennaf yn y gorffennol, sy'n dargludo trydan yn dda iawn, ac sydd felly'n amddiffyn yn well rhag mellt. Gwneir awyrennau modern o ddeunyddiau carbon cyfansawdd cryfach ac ysgafnach, nad ydynt  yn dargludo trydan cystal.

Bydd ymchwilwyr yn y labordy mellt yn astudio'r mecanweithiau sy'n gysylltiedig â phan fydd mellt yn taro'r deunyddiau carbon cyfansawdd hyn, ac yn dyfeisio ffyrdd o wneud y deunyddiau'n fwy diogel a dibynadwy.

Defnyddir y wybodaeth hefyd i wneud dyluniad cyffredinol awyrennau'n fwy effeithlon ac economaidd, ac i gadw'r DU ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes awyrofod.

Ar hyn o bryd, Labordy Mellt Morgan-Botti yw'r unig labordy mellt prifysgol yn y byd sydd wedi ymrwymo i gynnal gwaith ymchwil a phrofion yn y maes awyrofod.

Ariannwyd prosiect PROTEST gan Innovate UK, drwy'r Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI: Aerospace Technology Institute). Y partneriaid diwydiannol eraill sy'n rhan o'r prosiect yw AIRBUS Group yn Filton, HEXCEL, gwneuthurwr deunyddiau carbon cyfansawdd ger Caergrawnt, a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cyfansoddion (NCC: National Composite Centre/Catapult).

Cyhoeddwyd yr arian newydd yn ystod ymweliad Mr Johnson â Phrifysgol Caerdydd, lle dangoswyd Sefydliad Catalysis Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) iddo hefyd, dwy ganolfan ymchwil sy'n arwain y byd.

Dywedodd Gweinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson: "Fel Llywodraeth Un Genedl, rydym yn cefnogi gwyddoniaeth ac arloesedd ledled y DU. Rydym am fod y lle gorau yn Ewrop ar gyfer arloesedd, felly rydym yn buddsoddi ym mhrosiect unigryw Prifysgol Caerdydd i greu syniadau newydd ar gyfer datblygu sector awyrofod blaenllaw Cymru.

"Dyma'r math o arbenigedd rydym yn ei gefnogi i ddiogelu llwyddiant y genedl a'i heconomi yn y dyfodol."

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor:  "Mae prifysgolion yn bodoli i greu ac i rannu gwybodaeth, ac mae effaith hynny ar gymdeithas y DU yn enfawr. Mae'r gwaith ymchwil a wneir yn ein Labordy Mellt, yn un enghraifft ymlith llawer o sut datblygir ymchwil sylfaenol a gefnogir gan y cynghorau ymchwil, yn ymchwil drosiadol o werth go iawn i'r DU, drwy bartneriaeth â diwydiant, y Llywodraeth ac Innovate UK. Rydym yn hynod falch o'n gorffennol yn cydweithio â diwydiannau ar draws ystod eang o sectorau."