Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn arwain papur newydd am ddeg egwyddor i wella gwybodeg EBV

14 Ionawr 2019

The Bari Manifesto

Papur newydd a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Ecological Informatics yn amlinellu fframwaith rhyngweithredu ar gyfer cynhyrchion data Bioamrywiaeth Hanfodol Amrywiol (EBV).

Ers 2013 mae sut i baratoi cynhyrchion data ar gyfer EBV ar raddfa fyd-eang wedi bod yn gwestiwn allweddol. Nid yw’n glir o hyd beth sydd ei angen i greu cynhyrchion data EBV eglur a hwylus ar gyfer unrhyw ardal ddaearyddol, dros unrhyw gyfnod o amser penodol, ar gyfer unrhyw rywogaeth, casgliad, ecosystem, neu gymuned o blanhigion o ddiddordeb a gyda data a allai gael ei gadw gan unrhyw storfeydd data neu ar draws sawl storfa ddata.

Gwella cydweithredu a rhyngweithredu ymysg nifer o randdeiliaid yw un o’r camau allweddol er mwyn ateb y cwestiynau hynny. Mae'r cyhoeddiad newydd yn awgrymu deg maes lle gellir gwella data a rhyngweithredu gwybodeg ymhlith seilwaith i gefnogi EBVs. Mae'r deg maes yn cynnwys cynllunio rheoli data, strwythur data, metadata, gwasanaethau, ansawdd data, llif gwaith gwyddonol, tarddiad ontolegau/geirfaoedd, cadw data a hygyrchedd.

Ar gyfer pob maes, disgrifir egwyddor rhyngweithredu craidd a rhoddir y canlyniadau a’r nodau a ddymunir. Cyflwynir y canllawiau gweithredu fel 'Maniffesto Bari', a enwir ar ôl y dref yn ne'r Eidal lle cawsant eu nodi.

"Mae Maniffesto Bari yn cyflwyno sylfaen gref ar gyfer cefnogi EBVs a llwyddiant fframwaith EBV byd-eang. Bydd y fframwaith rhyngweithredu hefyd yn cyfrannu tuag at seilwaith gryfach ar gyfer bioamrywiaeth a gwybodeg ecolegol yn gyffredinol," meddai Alex Hardisty, prif awdur y papur o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r erthygl hefyd yn amlygu camau penodol i wella'r gallu i ryngweithredu data. Mae'r argymhellion yn cael eu llunio ar wahân ar gyfer gwahanol randdeiliaid, gan gynnwys cyrff safonau data, seilwaith data ymchwil, y cymunedau ymchwil perthnasol, a chyllidwyr.

Dywedodd W. Daniel Kissling, cydlynydd gwyddonol prosiect GLOBIS-B: "Gyda lwc bydd Maniffesto Bari yn ein galluogi i greu llif gwaith gwyddonol ar gyfer gwneud cynhyrchion data EBV eglur y gellir eu hatgynhyrchu."

Rhannu’r stori hon