Ewch i’r prif gynnwys

Athro ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines

10 Ionawr 2019

Cymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, Richard Parks, chwaraewr rygbi proffesiynol ac athletwr eithafol gyda'r Athro Nicola Phillips OBE sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Richard ar ei deithiau antur anhygoel.

Yr Athro Nicola Phillips, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Chymry eraill ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae'r Athro Nicola Phillips wedi derbyn OBE am ei gwasanaeth hir i'r proffesiwn Ffisiotherapi yn academaidd, yn glinigol a thrwy chwaraeon. Mae OBE yn anrhydedd a roddir gan y Frenhines i unigolyn am chwarae rôl leol bwysig mewn busnes, elusen neu'r sector cyhoeddus. OBE yw’r enw a roddir i Swyddog o Urdd Fwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig.

Derbyniodd yr Athro Phillips lythyr gan Swyddfa'r Cabinet ddiwedd Tachwedd i roi gwybod iddi ei bod wedi’i henwebu.

Ar ôl cael ei henwebu, dywedodd yr Athro Phillips 'Rwy’n teimlo’n wylaidd gan fod fy nghydweithwyr ffisiotherapi wedi neilltuo amser ac ymdrech i gyflwyno enwebiad, a bod pobl yr wyf wedi gweithio gyda nhw ym maes ffisiotherapi a chwaraeon wedi cefnogi'r enwebiad. Rwyf wedi gweithio gyda phobl arbennig ac wedi dysgu cymaint gan y rhai o'm cwmpas, felly teimlaf y dylwn i rannu'r wobr gyda nhw!'

Mae'r Athro Phillips wedi gweithio ym myd ffisiotherapi a chwaraeon ar wahanol lefelau, o hamdden i berfformiad uchel, ers dros 35 mlynedd. Bu’n gweithio yn gyntaf i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yna'r sector preifat cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym 1999. Mae'r Athro Phillips nawr yn arwain y rhaglen MSc mewn Chwaraeon ac Ymarfer Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â'i gwaith academaidd, bu’r Athro Phillips yn ffisiotherapydd yng ngemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf ym 1986, a hi oedd Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru ar yr Arfordir Aur yn 2018 yn ei 9fed Gemau'r Gymanwlad. Gweithiodd yr Athro Phillips gyda Thîm Prydain Fawr am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd ym 1992, a daeth yn Brif ffisiotherapydd yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.

Roedd yr Athro Phillips hefyd yn wirfoddolwr yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012, yn arwain tîm ffisiotherapi ym mholyclinig y Pentref Athletwyr.

Mae'r Athro Phillips hefyd wedi arwain corff proffesiynol rhyngwladol neu DU y sefydliadau ffisiotherapi chwaraeon yn ystod ei gyrfa. Rhan o'r rôl honno oedd helpu i osod cymwyseddau safonol a datblygu llwybr datblygu proffesiynol strwythuredig i gydnabod arbenigedd yn y maes hwn.

Mae ymdeimlad o falchder yn yr Ysgol am lwyddiant Nicki. Gobeithio bydd ei llwyddiannau'n parhau.

Yr Athro David Whitaker Pennaeth Ysgol a Deon

Dywedodd yr Athro Phillips 'Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o dderbyn y wobr hon am wasanaethau i ffisiotherapi. Rydw i'n teimlo'n angerddol am fy mhroffesiwn a'r rôl sydd gan ffisiotherapyddion o ran helpu pobl i wneud ymarfer corff a chadw'n heini; boed hynny'n codi oddi ar y soffa neu'n cystadlu ar lwyfan rhyngwladol.’

‘Mae gweld sut mae rôl ffisiotherapyddion wedi datblygu ym myd chwaraeon dros yr 20-30 mlynedd ddiwethaf yn ddiddorol iawn, ac mae helpu gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi athletwyr o bob gallu yn rhoi llawer o foddhad hefyd. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi cael cyfleoedd i helpu i wneud gwahaniaeth mewn rhywbeth rwy'n ei fwynhau.’

I gael rhagor o wybodaeth am yr enwebiad a'r broses o dderbyn OBE ewch i wefan Awards Intelligence.

Rhannu’r stori hon