Ewch i’r prif gynnwys

Pecynnau cymorth cyfreithiol i ofalwyr yn fuddugol mewn gwobrau pro bono clodfawr

9 Ionawr 2018

Mae prosiect gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy'n cynnig cymorth cyfreithiol i ofalwyr pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru wedi ennill prif wobr mewn seremoni wobrwyo Pro Bono genedlaethol.

Yn y prosiect cyngor myfyrwyr Cymorth a Grymuso Annibynnol Cymru (WISE) mae myfyrwyr y Gyfraith yn gweithio gyda'r elusen anabledd Mencap Cymru ac fe'i cydnabuwyd yn y categori 'Partneriaeth Pro Bono Mwyaf Effeithiol' yng ngwobrau Pro Bono LawWorks ym mis Rhagfyr.

Dechreuodd prosiect WISE yn 2015 pan nodwyd bod angen cymorth penodol yng Nghymru ar bobl sy'n gofalu am bobl ag anableddau dysgu neu sy'n eu cynorthwyo. Roedd llawer o'r hyn oedd wedi'i ysgrifennu ar gyfer gofalwyr yn y DU wedi'i deilwra i gyfreithiau Lloegr oedd yn golygu nad oedd gofalwyr Cymru'n derbyn cefnogaeth lawn yn sgil datganoli. Felly cysylltodd Mencap Cymru ag uned Pro Bono'r Ysgol i weld a oedd modd i fyfyrwyr y gyfraith lenwi'r bwlch a chynnig y cymorth oedd ei angen ar aelodau teulu, gweithwyr cymorth ac eiriolwyr ar ran pobl oedd yn byw ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Yn 2015, gwnaed cais llwyddiannus am grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru dros dair blynedd i brosiect WISE ddatblygu cyfres o becynnau cymorth ar draws amrywiol bynciau cyfreithiol, gan gynnwys diogelu plant, cyrchu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd ac addysg bellach.

Mae'r pecynnau cymorth, sydd ar gael ar wefan Mencap Cymru, yn cynnig arweiniad rhwydd ac yn fodd pwysig i rymuso teuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael y cyngor cyfreithiol sydd ei angen arnynt. Ers cael eu lansio, cysylltwyd â’r pecynnau cymorth dros 1,700 o weithiau ac mae dros 1,400 o bobl wedi mynychu gweithdai a ddarperir gan y prosiect.

Mae gofalwyr wedi dweud mai adnoddau prosiect WISE yw'r unig ffynhonnell o gymorth sydd ar gael iddynt tra bo'r myfyrwyr a gynigiodd eu cymorth yn credu bod y sgiliau a enillwyd wrth weithio ar y prosiect wedi eu helpu i sicrhau cyflogaeth ar ôl gadael y brifysgol.

Bu Kera Powell, a raddiodd ym mis Gorffennaf 2018, yn rhan o'r prosiect yn ei hail a'i thrydedd flwyddyn ac aeth yn ei blaen i swydd fel Swyddog Cyfreithiol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Dywedodd: "Dysgais lawer o sgiliau drwy Mencap WISE sy'n hollol angenrheidiol ac yn drosglwyddadwy i'r byd gwaith. Yn y cyfweliad roedd gen i atebion cadarn i'r holl gwestiynau oedd yn ymwneud â phethau fel adeiladu tîm, esbonio iaith gyfreithiol anodd i berson lleyg, gweithio i derfynau amser a rheoli disgwyliadau cleientiaid. Rwyf i wir yn credu 100% mai fy mhrofiad pro bono oedd y rheswm y cefais fy swydd newydd."

Ategodd yr Athro Jason Tucker, Deon Cyflogadwyedd y Brifysgol a goruchwyliwr academaidd y prosiect yr hyn roedd Kera'n ei ddweud: "Mae'r prosiect yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy i gael dealltwriaeth o waith y trydydd sector a chyfoethogi eu dealltwriaeth o anabledd dysgu.  Yn ogystal mae'n cynorthwyo cenhadaeth ddinesig y Brifysgol sef ei gwreiddio ei hun yn y gymuned leol."

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Tucker gan y Gwir Anrhydeddus David Lammy AS ar 3 Rhagfyr 2018 yn Seremoni Wobrwyo Pro Bono Law Works yn Llundain.

Mae menter Mencap Cymru'n un o ddeuddeg o gymorthfeydd pro bono mae'r uned Pro Bono wedi'u meithrin ers iddi gael ei lansio yn 2006.

Rhannu’r stori hon