Ewch i’r prif gynnwys

Top honour awarded to Professor Karen Holford

22 Medi 2015

Yr Athro Karen Holford
Yr Athro Karen Holford

Heddiw, etholwyd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Mae hyn yn anrhydedd genedlaethol - un o'r rhai mwyaf y gall peiriannydd ei derbyn. Mae'n cydnabod gyrfa ymchwil nodedig yr Athro Holford yn y diwydiant a'r byd academaidd, yn ogystal â'i hymrwymiad i weithgareddau allgymorth ac i hyrwyddo peirianneg fel gyrfa.

Ar ôl ymgymryd â'i gradd gyntaf mewn Peirianneg Fecanyddol yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (Caerdydd) fel prentis israddedig o dan nawdd Rolls Royce, aeth yr Athro Holford ymlaen i weithio fel Uwch Beiriannydd Dylunio yn AB Electronic Products Ltd, lle bu'n arwain ar amrywiaeth o brosiectau ym maes moduron, gyda chwmnïau fel BMW, Jaguar a Rover.

Ymunodd yr Athro Holford ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd fel darlithydd ym 1990, a daeth yn gyfarwyddwr yr Ysgol yn 2010. Ym mis Medi 2012, penodwyd yr Athro Holford yn Ddirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Mae gwaith ymchwil cyfredol yr Athro Holford yn canolbwyntio ar allyriadau acwstig, a sut gellir datblygu synwyryddion amledd uchel i fonitro difrod mewn nifer o wahanol strwythurau a systemau, fel pontydd, adeiladau a gêr glanio awyrennau.

Yn ogystal â'i gwaith ymchwil, mae'r Athro Holford yn frwdfrydig dros hyrwyddo peirianneg, ac mae'n rhan o nifer o bwyllgorau a sefydliadau sy'n mynd ati i annog pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y maes.

Yn 2006, dyfarnwyd gwobr Cymraes y Flwyddyn mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r Athro Holford, ac yn 2007, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg) iddi am ei hymrwymiad hirdymor i gefnogi merched a menywod ifanc ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg.

Wrth gael ei henwi'n Gymrawd, dywedodd yr Athro Holford: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi'n Gymrawd, a chael fy nghydnabod ochr yn ochr â rhestr mor nodedig o beirianwyr blaenllaw. Derbyn yr anrhydedd hon yw uchafbwynt gyrfa peiriannydd, ac rwy'n gobeithio y gellir ei defnyddio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried astudio neu weithio yn y maes. Edrychaf ymlaen at weithio'n agosach gyda'r Academi fel rhan o'r Gymrodoriaeth yn y dyfodol."

Wrth gael ei henwi'n Gymrawd, dywedodd yr Athro Holford: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi'n Gymrawd, a chael fy nghydnabod ochr yn ochr â rhestr mor nodedig o beirianwyr blaenllaw. Derbyn yr anrhydedd hon yw uchafbwynt gyrfa peiriannydd, ac rwy'n gobeithio y gellir ei defnyddio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried astudio neu weithio yn y maes. Edrychaf ymlaen at weithio'n agosach gyda'r Academi fel rhan o'r Gymrodoriaeth yn y dyfodol."

 Fel Cymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol, bydd yr Athro Holford yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ar ran yr Academi, gan gefnogi ymchwil i beirianneg, llunio polisi, addysg ac entrepreneuriaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae Cymrodoriaeth yr Academi'n cynrychioli arweinwyr diwydiant, busnesau, entrepreneuriaid, arloeswyr ac ymchwilwyr peirianneg gorau'r wlad. Ar hyn o bryd, mae dros 1,500 o beirianwyr ledled y sectorau a'r disgyblaethau'n rhan o'r Gymrodoriaeth, yn arwain, yn tywys ac yn cyfrannu at waith yr Academi ac yn darparu arbenigedd.

Dywedodd yr Athro y Fonesig Ann Dowling DBE FREng FRS, Llywydd yr Academi Beirianneg Frenhinol: "Ymrwymiad ac egni ein Cymrodyr yw asgwrn cefn ein Academi. Mae ein Cymrodyr newydd yn ymuno â ni heddiw fel pobl fwyaf arloesol a chreadigol y wlad o'r byd academaidd a'r diwydiant. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw, gan ddysgu oddi wrth eu llwyddiannau a manteisio ar eu harbenigedd sylweddol wrth i ni barhau â'n gwaith o hyrwyddo peirianneg wrth wraidd cymdeithas."