Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i ddarpariaeth yr iaith Gymraeg

21 Medi 2015

Wyn Davies
Wyn Davies, Fferylliaeth, Prifysgol Caerdydd

Pump o swyddi darlithio newydd ym meysydd Fferylliaeth, Meddygaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd.

Bydd Prifysgol Caerdydd y cael arian gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer hyd yn oed fwy o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg.

Bydd y Coleg, sy'n gweithio i sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, yn buddsoddi mewn swyddi addysgu ar gyfer Fferylliaeth, Meddygaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd.

Bydd Wyn Davies o Gastell-nedd, sydd hefyd yn un o aelodau blaenllaw Only Men Aloud, yn un o'r rheini a fydd yn addysgu Fferylliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol. Mae'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r brifysgol lle bu'n astudio:

''Mae darpariaeth a gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Fferylliaeth wedi bod yn agos at fy nghalon ers i mi raddio. Bydd dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i ddarlithio o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi cyfle i mi sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'r system iechyd.''

Bydd Laura Doyle ac Elen Jones hefyd yn gyfrifol am ehangu'r ddarpariaeth newydd sbon, ac am recriwtio mwy o fyfyrwyr i astudio Fferylliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Dr Awen Iorwerth fydd yn gyfrifol am ehangu ac atgyfnerthu'r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael ym maes Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd Anwen Davies yn cynnig cefnogaeth â’u hastudiaethau i fyfyrwyr y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

''Roeddem yn falch o allu cefnogi'r penodiadau hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno'n dda i bob un ohonynt wrth iddynt greu adnoddau a recriwtio darpar fyfyrwyr dros y blynyddoedd sydd i ddod.''