Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth frenhinol

3 Ionawr 2019

Nicola Phillips
Prof Nicola Phillips

Mae llwyddiannau rhagorol arbenigwyr y Brifysgol wedi cael eu cydnabod ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2019.

Cafodd yr Athro Nicola Phillips, yr Athro Barbara Ryan a'r Athro Derek Jones anrhydeddau i gydnabod eu cyfraniad a'u llwyddiannau yn eu meysydd.

Mae'r Athro Phillips yn cael OBE am ei gwasanaethau i ffisiotherapi.

Mae angerdd yr Athro Phillips yn cael ei gydnabod yn eang yn ei phroffesiwn, ynghyd â'i gallu i gydbwyso gofynion gwaith clinigol ac academaidd.

Mae'n cael ei chydnabod yn eang am ei gwaith mewn digwyddiadau chwaraeon blaenllaw, ac mae wedi teithio'n helaeth gyda thimau Cymru a Phrydain i gemau mawr, gan gynnwys gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd.

Roedd hi'n Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn 2018.

Dywedodd yr Athro Phillips: “Rydw i'n teimlo'n angerddol am fy mhroffesiwn a'r rôl sydd gan ffisiotherapyddion o ran helpu pobl i wneud ymarfer corff a chadw'n heini – boed hynny'n codi oddi ar y soffa neu'n cystadlu ar lwyfan rhyngwladol.

"Mae gweld sut mae rôl ffisiotherapyddion wedi datblygu ym myd chwaraeon dros yr 20-30 mlynedd ddiwethaf yn ddiddorol iawn, ac mae helpu gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi athletwyr o bob gallu yn rhoi llawer o foddhad hefyd.

"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi cael cyfleoedd i helpu i wneud gwahaniaeth mewn rhywbeth rwy'n ei fwynhau."

Cafodd yr Athro Barbara Ryan MBE am ei gwasanaethau i Optometreg.

Yr Athro Ryan yw Cyfarwyddwr Rhaglenni Ôl-raddedig yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg a Chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Addysg Optometreg Ôl-raddedig Cymru (WOPEC), y ganolfan astudiaethau optometreg ôl-raddedig cyntaf yn y byd.

Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau adsefydlu o safon o bobl â nam ar y golwg.

Fel optometrydd mae hi'n parhau i weithio yn y gwasanaeth golwg gwan cymunedol, Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sy'n gweithredu mewn dros 200 o bractisau optometreg ac sydd wedi'i gysylltu â gwasanaethau yn y sector cymdeithasol a gwirfoddol.

Downing street image
Prof Barbara Ryan

Mae'r Athro Derek Jones yn cael MBE am ei wasanaethau i ddelweddu meddygol a'i waith yn hyrwyddo ymgysylltu gwyddonol.
Mae'r Athro Jones yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ac mae'n cael ei gydnabod yn eang fel un o'i hoelion wyth.

Yn ogystal â goruchwylio cyfeiriad gwyddonol a strategol y Ganolfan, mae'r Athro Jones yn parhau i wneud gwaith ymchwil. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar sicrhau bod modd tynnu cymaint o wybodaeth feintiol â phosibl am yr ymennydd gan ddefnyddio technegau delweddu cyseinedd magnetig yn hytrach na thechnegau mwy mewnwthiol.

Dywedodd yr Athro Jones: "Mae'n fraint annisgwyl iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld ei fod yn sôn am ganolfan delweddu'r ymennydd. Rwy'n teimlo fy mod yn derbyn ar ran yr holl bobl sy'n gweithio yno. Mae’n ymdrech enfawr fel tîm."

Professor Derek Jones with the Queen
Prof Derek Jones

Cafodd y Cymrawd Anrhydeddus Capten Hannah Graf (née Winterbourne) MBE am arweinyddiaeth ragorol.

Hannah yw'r milwr trawsryweddol uchaf ei radd ym Myddin Prydain ac mae'n gweithredu fel Cynrychiolydd Trawsryweddol y Fyddin, gan gynghori Cadlywyddion Uwch ar bolisïau trawsryweddol a mentora milwyr trawsryweddol y Fyddin.

Captain Hannah Graf (née Winterbourne)
Captain Hannah Graf

Cafodd rhai o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd eu cydnabod ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018. Mae’r rhain yn cynnwys Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, a gafodd CBE am ei gyfraniad ym meysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

Dyfarnwyd MBE i Miss Susan Hemming OBE, Pennaeth Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth dros Wasanaeth Erlyn y Goron, am ei chyfraniad ym maes cyfraith a threfn.

Dyfarnwyd Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig i Miss Ceri Harris (MSc 2008) a Mr Jeffrey Howard (BMus 1990). Dyfarnwyd MBEs i Miss Caroline Matthews (LLB y Gyfraith 1997, PGDip 1998), Rev Peter William Stephen King (MTh 2014) a Mrs Gail Powell (DIP1). Dyfarnwyd OBEs i Dr Neil Bentley-Gockmann (BScEcon 1982, PhD 1999), yr Athro David Martin (PhD 1989) a Mr Richard Stephenson (PGDip 1998).

Mae'r rhestr lawn o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2019 ar gael yn: www.gov.uk/government/news/the-new-years-honours-list-2019.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.