Ewch i’r prif gynnwys

Gwarchod mwncïod trwynog rhag effaith datgoedwigo

2 Ionawr 2019

Proboscis monkey

Mae astudiaeth 10 mlynedd o fwncïod trwynog yn Borneo wedi dangos bod troi coedwigoedd yn blanhigfeydd olew palmwydd yn effeithio ar y rhywogaeth yn sylweddol.

Mae bron i hanner yr holl rywogaethau primat mewn perygl o ddiflannu ac mae hynny’n bennaf o ganlyniad i ddinistrio cynefinoedd. Astudiwyd mwncïod trwynog mewn astudiaeth newydd rhwng 2004 a 2014, a daeth i’r amlwg bod diogelu gwern-goedwigoedd yn hanfodol os ydynt am oroesi.

Yn ystod yr astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Chubu, Prifysgol Hokaido, Prifysgol Sun Yat-AAA, Cynghrair Tirlun Byw, corff anllywodraethol HUTAN, Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Chanolfan Maes Danau Girang, edrychwyd ar newidiadau mewn maint poblogaethau dros ddegawd, a daeth i’r amlwg bod maint y grwpiau o fwncïod trwynog wedi lleihau yn sylweddol.

Meddai Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fe wnaethom gymharu maint y boblogaeth rhwng 2004 a 2014, a daeth newidiadau cynnil i’r amlwg gan gynnwys amrywiad yn nwysedd y boblogaeth, ond heb gynyddu na gostwng. Yn bwysicach na hynny, fodd bynnag, rydym wedi gweld bod maint y grwpiau wedi lleihau yn sylweddol.

Prin yw’r astudiaethau am effaith y newidiadau mewn cynefinoedd ar boblogaethau primatiaid. Mae’r rhain yn aml yn seiliedig ar gasgliadau gan fod primatiaid yn famaliaid hirhoedlog gyda chylchoedd bywyd araf, ac sy’n ymateb yn araf iawn i newidiadau amgylcheddol yn gyffredinol. Mae gwybodaeth fel hyn yn hanfodol er mwyn paratoi cynlluniau rheoli effeithiol ar gyfer gwarchod dros dymor hir.

Yr Athro Benoît Goossens Cyfarwyddwr, Canolfan Maes Danau Girang

Meddai Mr Augustine Tuuga, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah: "Mae mwncïod trwynog yn endemig i Ynys Borneo. Maen nhw’n cael eu hystyried yn rhywogaeth o dan fygythiad ac maen nhw hefyd yn rhywogaeth sydd wedi’i gwarchod yn llwyr yn Sabah. Er gwaethaf y lefelau gwarchod hyn, mae cynefinoedd gwern-goedwigoedd sy’n bwysig i’r rhywogaeth hon yn parhau i leihau, ac mae hynny’n bennaf o ganlyniad i droi coedwigoedd yn blanhigfeydd olew palmwydd.

"Dangosodd ein dadansoddiad o’r newidiadau mewn cynefinoedd yn y gwarchodfeydd mai ychydig o goedwigoedd a gollwyd oedd o fewn cyrraedd y mwncïod trwynog, sydd 800m o lannau afonydd yn bennaf."

"Mae hyn yn awgrymu y gall gwarchod gwern-goedwigoedd wneud cyfraniad hanfodol at gynaliadwyedd mwncïod trwynog yn y cynefinoedd pwysig hyn. Fodd bynnag, mae colli mwy o goedwigoedd mewnol yn golygu bod y cynefinoedd wedi cael eu diraddio a’u rhannu’n gynyddol ac y gallai hynny fod wedi cyfrannu at grwpiau llai a thwf cyfyngedig yn y boblogaeth" ychwanegodd Dr Marc Ancrenaz, Cyfarwyddwr Gwyddonol corff anllywodraethol HUTAN.

Daeth Dr Benoit Goossens i'r casgliad: "Er bod diogelu’r coedwigoedd sydd o fewn cyrraedd y mwncïod trwynog wedi bod yn effeithiol, ni chafwyd yr un effaith mewn coedwigoedd nad ydynt yn cael eu diogelu. Collwyd 12% o’r coedwigoedd yn y mannau hyn, a gallai hynny arwain at fygwth 23% o'r boblogaeth yn y pen draw.

"Mae o leiaf traean o'r coedwigoedd hyn wedi’u neilltuo ar gyfer amaethu olew palmwydd. Rhaid gwneud rhagor er mwyn gwarchod cynefinoedd gwerthfawr yn fwy effeithiol ac adfer ardaloedd gwern-goedwigoedd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i’r rhywogaeth hon sydd o dan fygythiad allu goroesi."

Rhannu’r stori hon

Edrychwch ar y dewisiadau astudio gan gynnwys cyrsiau maes, cyrsiau ôl-raddedig neu flwyddyn hyfforddiant proffesiynol.