Ewch i’r prif gynnwys

Uno’r dreigiau

18 Medi 2015

Flag of the People's Republic of China
Flag of the People's Republic of China

Heddiw, bydd y gwleidydd benywaidd uchaf ei statws yn Tsieina yn bresennol mewn seremoni llofnodi cytundeb hanesyddol rhwng prifysgol flaenllaw Cymru ac un o 10 prifysgol orau Tsieina.

Bydd Liu Yandong, Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn dadorchuddio plac yng Nghaerdydd heddiw, fel symbol o lansiad coleg newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing.

Bydd myfyrwyr Cyd-Goleg Astudiaethau Tsieinëeg Caerdydd-Beijing yn dilyn cwricwlwm Astudiaethau Iaith a Diwylliant Tsieina a ddatblygwyd ar y cyd, gan arwain at ddyfarniad israddedig deuol gan y ddwy brifysgol.

Bydd blynyddoedd cyntaf ac olaf y rhaglen gradd pedair blynedd yn cael eu haddysgu yng Nghaerdydd, a'r blynyddoedd yn y canol yn cael eu haddysgu yn Beijing. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr y radd newydd ymgymryd â lleoliad gwaith neu interniaeth yn Tsieina i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.

Bydd graddedigion y coleg yn datblygu sgiliau iaith Tsieinëeg yn ogystal â dysgu codau diwylliannol y wlad arall. Y nod yw cynyddu cysylltiadau masnachol a diwylliannol rhwng Cymru a Tsieina.

Mae sefydlu'r coleg newydd yn gam cyffrous yn ymgyrch y Brifysgol i feithrin profiad fwyfwy rhyngwladol i fyfyrwyr, ac mewn blynyddoedd i ddod, bydd yn cyfrannu'n fawr at gryfhau cysylltiadau diwylliant a busnes rhwng Cymru a Tsieina

Colin Riordan Is-Ganghellor

Bydd y coleg newydd yn debyg i'r cyd-golegau presennol rhwng prifysgolion y DU a Tsieina, sydd wedi'u lleoli yn Tsieina ac sy'n addysgu carfannau o fyfyrwyr Tsieineaidd. Yr hyn sy'n nodedig am y coleg newydd yw y bydd y radd yn cael ei chyflwyno yn y DU ac yn Tsieina, i gymysgedd o fyfyrwyr o'r ddwy wlad.

Cefnogir y lansiad gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina, a chaiff ei ystyried yn sbardun allweddol wrth wraidd uchelgais y Weinyddiaeth i ryngwladoli ei system addysg uwch a datblygu gwell dealltwriaeth ddiwylliannol rhwng y DU a Tsieina.

Bydd adeiladu a chryfhau cysylltiadau addysgol rhwng Tsieina a Chymru yn elwa'r ddwy wlad ac rwy'n croesawu sefydlu'r coleg newydd hon yn ogystal â'r cytundebau eraill rhwng Prifysgol Caerdydd a'i phartneriaid Tseiniaidd

Carwyn Jones Dyweddodd Prif Weinidog Cymru

Mae'r Weinyddiaeth yn cefnogi'r broses o sefydlu Cyd-Sefydliad Meddygaeth a Gwyddorau Bywyd hefyd; cytundeb rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Capital Medical a lofnodwyd heddiw, sy'n amlinellu buddsoddiad mewn rhaglen newydd o waith ymchwil cydweithredol gwerth £5.2M – gyda £2.6M yn cael ei fuddsoddi gan y ddwy ochr - dros gyfnod o bum mlynedd.

Gan adeiladu ar brosiect cydweithredol parod i ymchwilio i ganser y fron, bydd cytundeb Prifysgol Caerdydd-Capital Medical yn cefnogi datblygu ymchwil ar gyfer triniaethau newydd mewn meysydd sy'n cynnwys canser, iechyd y cyhoedd, imiwnoleg, niwrowyddoniaeth a chlefydau heintus.

Mae'n rhoi cyfle i ymchwilwyr o Gymru weithio gydag ymchwilwyr yn Tsieina, i gael gafael ar setiau data enfawr a fydd yn cyflymu'r gwaith ymchwil, yn enwedig mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad yw clefydau'n amlwg.

Bydd cytundeb ysgoloriaeth newydd yn cael ei lofnodi heddiw hefyd, sy'n ymdrin â datblygu Rhaglen Addysg Weithredol gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, i gyflwyno cyfres o raglenni tri mis mewn gweinyddiaeth gyhoeddus i uwch-staff gweinyddol y Brifysgol.

Bydd y cytundeb yn golygu mai Prifysgol Caerdydd fydd y prif ganolfan hyfforddiant ar gyfer Cyngor Ysgoloriaethau Tsieina yn y DU, gan atgyfnerthu'r cysylltiadau addysg a diwylliant rhwng Cymru a Tsieina ymhellach.

Mae ymweliad Dirprwy Brif Weinidog Tsieina, Liu Yandong, ar y cyd â dirprwyaeth sy'n cynnwys Gweinidog Addysg Tsieina, Yuan Guiren, yn rhan o'r digwyddiadau sy'n ymwneud â 'People to People Dialogue' – fforwm dwyochrog y DU a Tsieina ar gyfer trafod materion sy'n ymwneud ag addysg, diwylliant ac iechyd.

Cynhelir seremoni lofnodi a lansiad Prifysgol Normal Caerdydd-Beijing yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon