Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn gwrthdroi ail achos yn y Llys Apêl

21 Rhagfyr 2018

Innocence Project
Gareth Jones and family pictured outside the Court of Appeal with members of the Cardiff University Innocence Project

Mae myfyrwyr a staff academaidd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd wedi helpu i wrthdroi collfarn anghyfiawn dyn a dreuliodd tair blynedd a hanner yn y carchar.

Treuliwyd dros chwe blynedd yn gweithio ar yr achos o dan oruchwyliaeth Dr Dennis Eady fel rhan o Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd, a gwrandawyd ar yr achos yn y Llysoedd Barn Brenhinol ar 22 Tachwedd, gyda'r dyfarniad yn cael ei drosglwyddo heddiw. 

Cafwyd Gareth Jones yn euog o ymosodiad rhywiol difrifol pan oedd un 22 mlwydd oed, ym mis Gorffennaf 2008.

Yn ogystal â dwsinau o fyfyrwyr, mae gan y prosiect gefnogaeth pro bono dau o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n fargyfreithwyr (Philip Evans CF a Tim Naylor), cyfreithiwr apeliadau troseddol yng Nghaerdydd (Andrew Shanahan) a phum arbenigwr meddygaeth/seicoleg.

Roedd oddeutu 17 o fyfyrwyr presennol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â chynfyfyrwyr, yno i weld canlyniad eu gwaith ymchwiliol a gyflwynwyd gan fargyfreithwyr i banel o farnwyr y llys apêl, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ustus Simon.

Yn dilyn y penderfyniad, dywedodd Dr Dennis Eady o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: "Daethom yn ymwybodol o achos Gareth yn 2012, drwy rywun a fu'n ei gefnogi ers tro byd, Paula Morgan. Cymerodd chwe blynedd o waith diflino gan y myfyrwyr, Paula a'n cefnogwyr i adolygu'r achos hwn. Ar sail eu canfyddiadau, mae'r Llys Apêl wedi penderfynu nad yw'r gollfarn hon yn ddiogel. Rydym yn croesawu eu penderfyniad."

Dyma'r ail gollfarn i Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd helpu i'w wrthdroi, a hyd yn hyn, dyma'r unig Brosiect Dieuogrwydd gan un o Brifysgolion y DU i wneud hynny

Yn 2014, hwn oedd y Prosiect Dieuogrwydd cyntaf gan un o Brifysgolion y DU i ddwyn achos yn llwyddiannus gerbron y Llys Apêl. Roedd Dwaine George eisoes wedi treulio 12 blynedd dan glo am lofruddio.

Lansiwyd Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn 2006. Mae'r prosiect yn galluogi myfyrwyr sy'n angerddol dros ymchwilio i gamweddau cyfiawnder honedig i weithio ar achosion carcharorion hirdymor wnaeth barhau i fynnu nad oeddent yn euog o'r troseddau difrifol iddynt eu cael yn euog ohonynt.

Yn ôl yr Athro Julie Price, Pennaeth Pro Bono yn yr Ysgol: "Mae'r achos hwn yn dangos bod prifysgolion yn gwneud mwy na dim ond gwaith ymchwil. Mae ein gwaith yn cael effaith go iawn o ganlyniad i ddysgu ac addysgu arloesol. Y gobaith yw y bydd y penderfyniad hwn yn gadel i Gareth ddechrau adeiladu ei fywyd o'r newydd."

Aeth ymlaen: "Ni fyddem yn y sefyllfa hon heb gymorth pro bono (rhad ac am ddim) gan nifer o bobl. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r unigolion hynny, ac i'n myfyrwyr yn y gorffennol a'r presennol am eu hymdrechion. Mae'r system apelio yn un broblematig ac mae angen ei newid.

"Ateb dros dro yw prosiectau prifysgol; nid oes modd iddynt ddisodli system cymorth cyfreithiol sydd wedi'i hariannu'n iawn."

https://youtu.be/XMeznkmpThc

Rhannu’r stori hon

Yn y fideo byr, mae Julie Price yn siarad â gweithiwr achos myfyrwyr, Richard Simpson am Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd. Nodwch mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig.