Ewch i’r prif gynnwys

Arweinwyr Trawsiwerydd

17 Rhagfyr 2018

Man and woman lead lecture
Dros 90 munud, rhoddwyd llwyfan i'r myfyrwyr fynegi eu barn ar y materion

Cafodd myfyrwyr ar draws Prifysgol Caerdydd gyfle i ddweud eu dweud am ddyfodol perthynas y DU-UDA mewn trafodaeth ryngweithiol a arweiniwyd gan BritishAmerican Business mewn partneriaeth â Llysgennad yr Unol Daleithiau.

Cyflwynodd y digwyddiad, rhan o Raglen Arweinwyr Trawsiwerydd y Dyfodol, hanes cryno o berthynas y DU-UDA i fyfyrwyr ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, cyn gofyn iddynt sut yr hoffent weld y berthynas yn datblygu yn yr 21ain ganrif.

Dros 90 munud, rhoddwyd llwyfan i'r myfyrwyr fynegi eu barn ar y materion sydd bwysicaf iddynt a sut y credant y gall perthynas y DU-UDA fod yn fwy perthnasol a hygyrch iddynt.

“Gwnaeth lefel yr ymgysylltu argraff fawr; nid yn unig roedd y myfyrwyr yn cyflwyno atebion meddylgar, gwybodus, oedd yn ystyried materion byd-eang, ond roedden nhw'n awyddus i ddysgu mwy hefyd.”

Theodore Bachrach Rheolwr Polisi a Materion y Llywodraeth ar ran BritishAmerican Business

“Roedd hyn yn help i lunio trafodaeth sylweddol ar ddyfodol perthynas y DU-UDA. Roedd yr amrywiaeth o atebion a gawsom ni union yr hyn roedden ni wedi'i obeithio.”

Clywodd myfyrwyr hefyd am gyfleoedd sydd ar gael i ddinasyddion y DU astudio a gweithio yn yr Unol Daleithiau, gan gynnig ffordd i gyfranogwyr ehangu eu rhwydwaith a'u profiadau proffesiynol.

Dywedodd Kathryn Dainty, myfyriwr israddedig ail flwyddyn yn astudio BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol): “Penderfynais fynd i ddigwyddiad y Rhaglen Arweinwyr Trawsiwerydd am fy mod am ddeall pam fod perthynas y DU-UDA mor bwysig mewn cyd-destun busnes byd-eang...”

“Roedd yn ddiddorol clywed beth oedd pobl eraill yn fy ngrŵp cymheiriaid yn meddwl a sut roedd hynny'n wahanol i'r safbwynt rwyf i wedi'i ddatblygu drwy astudio Rheoli Rhyngwladol yn yr Ysgol Busnes.”

Kathryn Dainty BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol)

Dywedodd Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi cael digwyddiad mor ddifyr ac uchel ei broffil yn y brifysgol...”

“Roedd yn braf eu gweld yn rhannu eu syniadau ar y materion rhyngwladol pwysig hyn.”

Alex Hicks Placement Manager

Caiff pawb a fu'n rhan o'r digwyddiad eu cydnabod yn ffurfiol gan Lysgenhadaeth UDA fel cyfranogwyr yn y Rhaglen Arweinwyr Trawsiwerydd gyda chyfle i ymgeisio i rannu eu syniadau mewn derbyniad yn Llundain yn y flwyddyn newydd ym mhresenoldeb aelodau o'r Llywodraeth a'r gymuned fusnes.

Ychwanegodd Lauren Cataldo, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus BritishAmerican Business: “Ar draws yr holl brifysgolion mae'r myfyrwyr wedi dymuno gweld ffocws ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, gwella masnach rhwng y ddwy genedl, a diogelwch byd-eang...”

“Y myfyrwyr yn ein sesiwn yng Nghaerdydd oedd y cyntaf i amlygu iechyd meddwl fel un o'r materion pwysicaf iddynt.”

Lauren Cataldo Policy and Public Affairs Assistant for BritishAmerican Business

“Hoffen nhw weld y DU a'r Unol Daleithiau'n dod â mwy o ymwybyddiaeth i afiechyd meddwl a chynnig gofal mwy hygyrch i gyflyrau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder.”

Caiff adborth myfyrwyr o'r digwyddiad, a gyflwynwyd mewn saith prifysgol yn y DU, ei gynnwys mewn cyhoeddiad i'w ddosbarthu i Lywodraethau'r DU ac UDA dros y misoedd nesaf.

Ychwanegodd Theodore Bachrach: “Rydym ni'n gweithio ar gyhoeddiad fydd yn arddangos ymatebion yr holl gyfranogwyr ar draws y prifysgolion a gaiff ei gyflwyno'n uniongyrchol i wneuthurwyr polisi ar draws y DU ac UDA.

“Yn ogystal, cynhelir ymgysylltu polisi ym mis Ionawr gyda grŵp dethol o fyfyrwyr yn cael rhannu eu syniadau'n uniongyrchol gydag aelodau o'r llywodraeth a busnes o'r ddwy genedl.”

Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Arweinwyr Trawsiwerydd.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.