Ewch i’r prif gynnwys

Canmoliaeth y DU i ‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’

20 Rhagfyr 2018

Adoption

Mae prosiect ar y cyd i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig.

Enillodd Mabwysiadu Gyda’n Gilydd – gwaith ar y cyd rhwng Cymdeithas Plant Dewi Sant, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd – yr anrhydedd arloesedd yng Ngwobrau'r Institute for Collaborative Working yn Llundain.

Nod Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, a arweinir gan Gymdeithas Plant Dewi Sant, yw diwallu angen arbennig a ddynodwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth ddod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer plant sy’n aros yr hiraf am deuluoedd a’u cefnogi.

Mae hyn yn cynnwys plant dros bedair oed, brodyr a chwiorydd, a’r rhai sydd ag anghenion cymhleth neu broblemau datblygiadol.

Mae’r fenter gydweithredol yn datblygu gwasanaethau hynod arloesol sy’n arwain y sector, ac sy’n seiliedig ar anghenion a nodwyd yn genedlaethol.

Bydd y tîm – sy’n cynnwys partneriaid therapiwtig a chydweithwyr o Barnardo’s ac Adoption UK – yn cynnig rhaglen arbenigol o gymorth mabwysiadu dan arweiniad seicolegydd, cyn ac ar ôl i’r plentyn gael ei leoli i’w fabwysiadu.

Dechreuodd y prosiect fel Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2017. Trwy arweiniad uniongyrchol Dr Jane Lynch yn Ysgol Busnes Caerdydd, a gyda chefnogaeth gan Coralie Merchant, Cyswllt PTG, mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi creu strwythur, sy’n cynrychioli newid trawsnewidiol yn y broses o gaffael gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Wrth dderbyn y wobr genedlaethol mewn seremoni yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd Dr Katherine Shelton, o’r Ysgol Seicoleg: “Mae Dr Jane Lynch a minnau wrth ein bodd o weld ‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’ yn derbyn y Wobr Arloesedd gan yr Institute for Collaborative Working.

Mae’r prosiect aml-asiantaeth wedi bod yn drawsnewidiol yn ei ddull o gefnogi rhai o’r plant sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Er gwaetha'r ffaith ei bod yn weddol newydd, mae manteision gweithio ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r sector wirfoddol yn amlwg yn y bartneriaeth hon.

Yr Athro Katherine Shelton Senior Lecturer

Cafodd y bartneriaeth gefnogaeth ariannol gan raglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd a’u cynhyrchiant trwy wneud defnydd gwell o'r wybodaeth, technoleg a sgiliau o fewn sylfaen wybodaeth y DU.

Mae'r KTP, sydd wedi ariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU trwy Arloesedd y DU, yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth.

Cafodd y prosiect gymeradwyaeth uchel hefyd yng Ngwobrau GO Wales fis diwethaf, sy’n dathlu llwyddiannau caffael.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.