Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthfawr yn y Gweithle

18 Rhagfyr 2018

Man presents in front of audience
Cadeiriwyd y gweithdy gan Dr Stephen Beyer o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl eleni gyda gweithdy Gwerthfawr yn y Gweithle a drefnwyd gan Engage to Change.

Daeth y digwyddiad dysgu gweithredol, a gynlluniwyd gan Sefydliad Cyflogaeth De Orllewin Lloegr (SWEI) â chyflogwyr a gweithwyr proffesiynol o ELITE at ei gilydd i helpu i greu perthnasoedd gwaith gwell rhwng y rheini sy'n eu helpu i recriwtio a chyflogi pobl ag anableddau dysgu.

Cadeiriwyd y gweithdy gan Dr Stephen Beyer o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe'i harweiniwyd gan Liz Garnham o SWEI.

Croesawyd y cynrychiolwyr gan yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, a amlinellodd ymrwymiad yr Ysgol i hyrwyddo gwerth cyhoeddus drwy ei hymchwil, ymgysylltu ac addysgu.

Man and woman in front of audience
Croesawyd y cynrychiolwyr gan yr Athro Rachel Ashworth

Rhan o'r genhadaeth hon yw dwysau ymgysylltu gyda sefydliadau ar draws Cymru i hyrwyddo cyflogaeth pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Newid meddylfryd

Roedd yn ddiwrnod hynod ryngweithiol gyda chyfle i'r rheini oedd yn bresennol gryfhau a chreu perthnasoedd, rhannu dysgu, a siarad am y problemau a'r datrysiadau yn ystod cyfres o sesiynau grŵp.

“Mae'n braf rhwydweithio a chyfarfod â phobl o gefndiroedd gwahanol gyda syniadau gwahanol am y ffordd rydym ni'n recriwtio, canfod a phortreadu pobl ag anableddau dysgu, a sut mae angen i ni newid ein meddylfryd i'w cael nhw i mewn i gyflogaeth.”

Dewi Sy'n rheoli siop Co-op yng Nghaerdydd

Ymunodd ei gydweithiwr, Carol, Hwylusydd Dysgu i Co-op Food, â Dewi yn y digwyddiad. Mae'r pâr yn bwriadu gweithio'n agos gyda phartner prosiect Engage to Change, ELITE Supported Employment.

Bydd ELITE yn mynychu cyfarfodydd Rheolwyr Ardal Siopau'r Co-op a gobaith Carol yw ehangu'r bartneriaeth o Gaerdydd ar draws de a gorllewin Cymru.

“Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â meddwl yn ehangach, meddwl sut y gallwn ni wneud pethau'n wahanol a'n herio ein hunain. Felly mae'n gwneud i chi feddwl.”

Nicki Flower Rheolwr Dysgu a Datblygu o Gyngor Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae Nick bellach yn meddwl am ddatrysiadau ymarferol yn rhai o feysydd y Cyngor ble mae'n anodd recriwtio, gan gynnwys sut i newid arferion, ble mae rolau'n cael eu hysbysebu a sut i gysylltu â'r rheini sy'n gadael coleg ac ysgol ac ysgolion addysg arbennig.

Gwerth unigryw

Woman and man present at event
Clywodd y cynrychiolwyr gan Sam a'i reolwr Zsuzsana, a gyflwynodd stori ysbrydoledig

Ar hyn o bryd mae cyflogaeth ymhlith pobl ag anableddau dysgu yn y sector cyhoeddus a phreifat yn is nag ymhlith grwpiau difreintiedig eraill.

Mae Gwerthfawr yn y Gweithle yn cynnig y modd ac yn hwyluso'r cysylltiadau i alluogi cyflogwyr i fanteisio ar gronfa dalent nad oes fawr o ddefnydd arni, yn ogystal â chael y cymorth angenrheidiol i gyflogi staff fydd yn ychwanegu gwerth unigryw i'w gweithlu.

Clywodd y cynrychiolwyr gan Sam a'i reolwr Zsuzsana, a gyflwynodd stori ysbrydoledig gyda’i gilydd am daith Sam at gyflogaeth o safbwynt y cyflogai a'r cyflogwr.

Mae Sam wedi gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu ers dros flwyddyn yn Ysgol Craig-y-Parc, ysgol addysg arbennig i'r gogledd o Gaerdydd.

Cafodd Sam gymorth i ddechrau gan Engage to Change, ac mae ei stori'n dangos y manteision y gall cyflogwyr eu hennill drwy wneud addasiadau rhesymol i recriwtio a chyflogi pobl ag anableddau.

Un o nodweddion Sam yn y rôl yw bod disgyblion yn gallu uniaethu ag e ac yn ei weld yn fodel rôl, yn ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni yn eu bywydau gwaith.

Cywiro'r anghydbwysedd

Woman leads small group work
Roedd yn ddiwrnod hynod ryngweithiol gyda chyfle i'r rheini oedd yn bresennol gryfhau a chreu perthnasoedd, rhannu dysgu, a siarad am y problemau a'r datrysiadau yn ystod cyfres o sesiynau grŵp

Ceir manteision economaidd hefyd i sefydliadau sy'n cyflogi pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn gallu perfformio rolau systematig ond cymhleth i safon uchel yn y diwydiant, yn aml mewn swyddi uchel eu trosiant sy'n anodd eu llenwi.

Mae cywiro'r anghydbwysedd a achosir gan ddiffyg cynrychiolaeth yn y gweithle'n cyflwyno manteision eraill drwy adlewyrchu'r sail cleientiaid o fusnesau'n well.

Strwythurwyd Gwerthfawr yn y Gweithle o gwmpas arferion gorau yn y prosesau recriwtio craidd sef denu, dethol a chyflogi pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, gan rannu gwybodaeth am brosesau a chanlyniadau cyflogi pobl yn llwyddiannus.

Gadawodd pobl y diwrnod gyda safbwyntiau a gwybodaeth newydd, cysylltiadau cryfach gyda darpar bartneriaid, ac ymrwymiad o'r newydd i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth drwy arferion cyflogaeth cynhwysol a hygyrch.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.