Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas OR yn dyfarnu teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol i’r Athro Paul Harper

18 Rhagfyr 2018

Paul Harper receiving award from the OR Society

Mae Cymdeithas OR wedi dyfarnu teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol i’r Athro Paul Harper, un o wobrau mwyaf nodedig y Gymdeithas.

Dyfarnwyd y wobr i’r Athro Harper am ei gefnogaeth a’i anogaeth barhaus i ddatblygiad Ymchwil Weithrediadol (OR) a’i wasanaeth eithriadol i Gymdeithas OR a chymuned ehangach OR. Ef bellach yw derbynnydd ieuengaf y wobr erioed.

Dechreuodd yr Athro Harper ei waith ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007, pan gafodd ei benodi yn gadeirydd ymchwil ym maes Ymchwil Gweithrediadol a daeth yn bennaeth ar grŵp OR yn 2009. Aeth ymlaen i ddatblygu dau gwrs ôl-raddedig OR newydd, sydd â chysylltiadau diwydiannol cryf yn benodol, a lansiwyd yn 2010. Mae hyn wedi arwain at wneud Prifysgol Caerdydd yn un o ddarparwyr mwyaf cyrsiau OR ar lefel ôl-raddedig yn y DU.

Mae cyflawniadau ymchwil yr Athro Harper yr un mor drawiadol, a dystir gan y grantiau y mae wedi’u hennill, ei 90+ o gyhoeddiadau, a’i fyfyrwyr PhD (20 wedi cwblhau a chyfredol).  Ond nid ymchwil sy’n aros mewn papurau yw hyn yn unig; dyma ymchwil sy’n cael effaith go iawn a enillodd gwobr Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd ddwywaith, yn ogystal â gwobr nodedig Addysg Uwch y Times am ‘Gyfraniad Anhygoel i Arloesedd a Thechnoleg’ ynghyd â Jeff Griffiths.

Mae hefyd wedi cyfrannu’n helaeth at gymuned OR ac ar hyn o bryd mae’n Brif Olygydd sefydlol cyfnodolyn Systemau Iechyd Cymdeithas OR (ers 2010); yn cynrychioli OR ar Bwyllgor Penaethiaid Gwyddorau Mathemategol (HoDoMS); ac yn aelod o Banel Ymchwil y Gymdeithas.

Mae teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol y Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd ac effaith ei ymchwil, ei gyfraniadau at welededd a dylanwad OR, a’i gefnogaeth i gymuned ehangach OR.

Rhannu’r stori hon