Ewch i’r prif gynnwys

Byrlymu gyda chreadigrwydd

15 Hydref 2018

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi enwi’r pedwar myfyriwr sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol 2018 ac yn ennill £2,000 yr un.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau yn 2015 ac maent wedi'u cynllunio i arddangos creadigrwydd a gwreiddioldeb ymgeiswyr israddedig, yn hytrach na gosod papur arholiad neu draethawd.

Enillwyr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol eleni, a £2,000, oedd:

  • Owain Ap Myrddin (Coleg Meirion-Dwyfor)
  • Megan Hunter (Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle)
  • Holly Dawe (Ysgol Bassaleg)
  • Phoebe Lewis (Coleg y Cymoedd, Nantgarw)

Gofynnwyd i'r ymgeiswyr baratoi cais sy'n dangos eu creadigrwydd, yn adlewyrchu eu personoliaethau ac yn mynegi eu syniadau mewn ffordd ddyfeisgar ac unigryw gan gyfeirio at: pam y maent eisiau astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, beth sy'n eu gwneud yn ymgeiswyr arbennig a pham y dylai Ysgol y Gymraeg eu dewis nhw.

Cafwyd nifer o geisiadau o bob rhan o Gymru, gyda phosteri, cerddi, cylchgronau a darnau o gelf yn cyrraedd swyddfa'r Ysgol.

Dywedodd Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg: "Fe gawsom nifer o geisiadau cryf ac felly roedd y gwaith o ddewis y pedwar enillydd yn arbennig o anodd. Rydym yn parhau i ryfeddu at ddull gwreiddiol ac unigryw yr holl ymgeiswyr wrth baratoi eu ceisiadau. Rydym yn diolch iddynt am eu brwdfrydedd ac yn llongyfarch ein henillwyr."

Darllenwch am Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol 2019.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.