Ewch i’r prif gynnwys

Y GIG yn hanfodol ar gyfer economi ranbarthol Cymru

13 Rhagfyr 2018

NHS workers in hopsital

Mae ymchwil newydd yn dangos bod y GIG yng Nghymru yn cefnogi mwy na 10% o gyfanswm swyddi'r wlad.

Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd yn Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn manylu ar yr hyn mae’r sefydliad yn ei greu o ran swyddi a chyflog – yn uniongyrchol i’w weithwyr yn ogystal ag i’r gwasanaethau a’r cwmnïau sy’n cyflenwi a chynnal gweithgarwch y GIG yng Nghymru.

Dywedodd Dr Annette Roberts, sy’n gyd-awdur: “Mae ein canfyddiadau’n dangos bod GIG Cymru yn chwarae rôl sylweddol yn yr economi leol. Gallai hyd yn oed newidiadau bychain i ffrydiau ariannu gael effeithiau economaidd sylweddol.

“Mae disgwyl i batrymau gwariant GIG Cymru newid yn sydyn yn unol â chynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ac felly mae angen gwneud mwy o ymchwil i ddeall effeithiau ehangach y newidiadau hyn.”

Mae’r adroddiad yn amlinellu sut y mae gweithgareddau a gwasanaethau’r GIG yn cael effaith ar weithgarwch economaidd Cymru, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae’r prif ganfyddiadau'n dangos:

  • Roedd GIG Cymru yn cefnogi tua 76,600 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio gweithwyr asiantaeth) ledled Cymru yn 2016/17. Roedd y swyddi hyn yn gysylltiedig â £3.3 biliwn o gyflogau misol ac wythnosol.
  • Mae bron i 33,000 o swyddi y tu allan i’r sector iechyd hefyd yn cael eu cefnogi gan weithgarwch GIG Cymru – mewn meysydd megis gweithgynhyrchu, gwasanaethau busnes, cyfanwerthu, manwerthu ac adeiladu.
  • Mae bron i 14,000 o gwmnïau a sefydliadau yn gyfrifol am gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r GIG. Mae dros 6,500 o’r rhain wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Gyda’i gilydd, amcangyfrifir i GIG Cymru gefnogi tua 145,400 o swyddi a £5.4 biliwn o werth ychwanegol gros (GVA). Mae hyn yn cyfrif am 11% o gyfanswm swyddi Cymru a 9% o GVA Cymru.
  • Mae pob £1 biliwn o wariant refeniw uniongyrchol y GIG yn cefnogi bron i 19,000 o swyddi yn economi Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Max Munday, sy’n gyd-awdur, fod gwariant y GIG yn chwarae rôl wrth sefydlogi’r economi leol a bod ei wariant yn creu cyfleoedd economaidd ledled Cymru, gydag effeithiau sydd heb eu cyfyngu i brif ganolfannau poblogaeth. Pwysleisiodd hefyd rôl gweithgarwch y GIG o ran cefnogi gweithlu iach. Tynnodd sylw at rai pryderon yn y sector iechyd ynghylch proses bontio’r UE.

Dywedodd: “Mae GIG Cymru yn cyflogi staff o’r UE a thu hwnt ac felly gallai newidiadau i reolau mewnfudo arwain at hinsawdd recriwtio fwy heriol. Mae pryder y gallai prinder gweithwyr yn y GIG yn Lloegr arwain at golli sgiliau yng Nghymru.

“Er hynny, mae’n bosibl y bydd Brexit yn effeithio llai ar weithgarwch y GIG yng Nghymru o gymharu â diwydiannau allforio mawr ac felly gallai’r swyddi a’r incymau a gefnogir ganddo gynnig ryw fath o amddiffynfa yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.”

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.