Ewch i’r prif gynnwys

Roger Behrend a’i gydweithwyr yn ennill Gwobr Robbins 2019

10 Rhagfyr 2018

American Mathematical Society logo

Dyfarnwyd Gwobr Robbins 2019 gan Gymdeithas Fathemategol America i Roger Behrend a’i gydweithwyr Ilse Fischer a Matjaž Konvalinka.

Rhoddir y wobr, a ddyfernir bob tair blynedd, ar gyfer eu papur "Matricsau arwyddion eiledol o drefn od sy’n gymesur yn groeslinol ac yn wrthgroeslinol,” a gyhoeddwyd yn 2017 yn Advances in Mathematics (Vol. 315, pp. 324-365). Yn y papur hwn, mae Behrend, Fischer a Konvalinka’n profi’r fformiwla dybiedig ar gyfer nifer y matricsau arwyddion eiledol o drefn od sy’n gymesur yn groeslinol ac yn wrthgroeslinol ar ôl dros 30 mlynedd. Hon oedd tybiaeth olaf David Robbins am fatricsau arwyddion eiledol heb ei phrofi.

Mae tybiaethau Robbins wedi arwain at ddatblygu dulliau newydd o wneud rhifiadau, yn ogystal â darganfod cysylltiadau dwfn â ffiseg ystadegol. Erbyn 2006, roedd yr holl dybiaethau wedi’u profi, ac eithrio’r dybiaeth am fatricsau arwyddion eiledol sy’n gymesur yn groeslinol ac yn wrthgroeslinol, oedd heb ei phrofi tan y papur hwn. Mae’r papur yn gamp goronog sy’n defnyddio dulliau dwfn a ddatblygwyd gan gymuned o ymchwilwyr dros fwy na 25 mlynedd. Mae hefyd yn dod â phroblemau newydd o fewn cyrraedd.

Ar ran yr Ysgol, hoffwn longyfarch Roger ar y gamp wyddonol hon a’r gydnabyddiaeth hon o’i gyfraniad.

Yr Athro Tim Phillips Head of School

Rhannu’r stori hon