Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu cyfrinachau newydd a defodau olaf cymunedau amlddiwylliannol yr Oes Haearn gyda’r wyddoniaeth ddiweddaraf

10 Rhagfyr 2018

contributors to Digging for Britain programme
Amal Khreisheh - Curator of Archaeology at South West Heritage Trust, Digging for Britain presenter Raksha Dave & lead archaeological scientist Dr Richard Madgwick

Ymchwil archeolegol newydd yn herio canfyddiadau o ddefodau corffdy'r Oes Haearn

Gan droi syniadau presennol ar eu pen, mae'r gwyddonydd archeolegol Dr Richard Madgwick wedi canfod mai prin oedd dignodio - neu amlygu'r corff i'r elfennau drwy'r hyn a elwir yn gladdedigaeth awyr - yn cael ei arfer yn ne orllewin Lloegr.  Ers tro y ddealltwriaeth gyffredinol oedd mai'r ymarfer hwn oedd y ddefod a ddefnyddid amlaf yn ystod y cyfnod.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau bioarcheolegol arloesol, dangosodd yr astudiaeth yng Ngwlad yr Haf hefyd gymuned fwy amrywiol na'r disgwyl, gan gynnwys cyfran sylweddol o bobl a fagwyd ymhell o Wlad yr Haf, gyda rhai wedi teithio mor bell â chyfandir Ewrop.

Bydd y prosiect ymchwil  i'w weld yn y gyfres deledu ddiweddaraf o Digging for Britain a gyflwynir gan y gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd, yr Athro Alice Roberts cyn y Nadolig.

Cynhaliwyd yr astudiaeth yn labordy bioarchaeoleg Prifysgol Caerdydd, ac roedd yn edrych ar weddillion 130 o bobl o bum safle Oes Haearn sy'n rhan o gasgliad Ymddiriedolaeth Treftadaeth De Orllewin Lloegr ar draws Môr Hafren yn Taunton.

Gan ddefnyddio cyfuniad pwerus o dechnegau macrosgobig, microsgopig a moleciwlaidd, canfu'r dadansoddiad fod y ddefod angladdol fwyaf cyffredin yn y cyfnod mewn gwirionedd yn gyfuniad cymhleth o gladdu cychwynnol, datgladdu ac adfer rhai o'r gweddillion. Er ei fod yn swnio'n facâbr i gymdeithas fodern y gorllewin, mae'n debyg fod pobl yn mynd yn ôl at feddau ar ôl i'r meinwe meddal ddiraddio, gyda'r esgyrn yn cael eu tynnu a'u cylchredeg neu eu curadu cyn cael eu gosod yn rhywle arall.

Drwy ddadansoddiad isotop o ddannedd dynol sydd wedi goroesi, canfu'r tîm darddiad 40 o unigolion. Dangosodd yr ymchwil bod y rhan fwyaf (31) wedi'u magu'n lleol. Mae'n ymddangos bod pedwar o'r naw unigolyn nad oedd yn frodorol yn dod o gyfandir Ewrop, tri o Iberia mae'n debyg, ac un arall o Lydaw. Fodd bynnag, doedd tarddiad ddim yn bwysig mewn arferion angladdol ac roedd pobl a fagwyd yn lleol neu ymhell yn cael eu trin yn yr un ffordd. Roedd yr un peth yn wir am dystiolaeth o drawma ar y sgerbwd. Doedd y ffordd roedd pobl yn marw - boed yn farwolaeth dreisiol neu naturiol - ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'w triniaeth ar ôl marw.

Ag yntau'n cynnal yr ymchwil i ddeall mwy am sut roedd pobl yn ne orllewin Lloegr yn trin eu meirw yn yr Oes Haearn, dywedodd y gwyddonydd archeolegol Dr Richard Madgwick:

"Yn wahanol i syniadau cyfredol, mae'r ymchwil hwn yn cynnig darlun gwahanol iawn o strwythur cymunedau’r Oes Haearn a sut roedd pob yn y rhan hon o Brydain yn trin eu meirw. Roedd cymdeithas yn fwy amlddiwylliannol na'r disgwyl a boed yn frodor neu'n rhywun o'r tu allan, yn gyfaill neu'n elyn, mae'r astudiaeth hon yn dangos nad oedd eich gwreiddiau'n cael unrhyw effaith ar eich triniaeth angladdol. Yn hytrach na chael eu hamlygu i'r elfennau drwy ddignodio, mewn gwirionedd roedd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu claddu, ac yna'n cael eu haflonyddu fisoedd neu'n fwy tebygol flynyddoedd yn ddiweddarach."

Er eu bod yn facâbr, mae'r manylion yn hynod ddifyr: "Yn ein hastudiaeth o'r pum safle, dim ond Pentref Llyn Glastonbury sy'n dangos amlygiad gweddillion, gyda thystiolaeth gryfach yn lle hynny'n awgrymu bod llawer o amser yn cael ei dreulio ar guradu penglogau troffi, o dynnu'r croen a churadu i sgleinio ac arddangos y penglogau dynol."

Mae Dr Richard Madgwick yn arbenigwr ar astudio esgyrn ac yn defnyddio dulliau macrosgobig, microsgopig a moleciwlaidd i ail-greu symudiadau, diet a phatrymau triniaeth yn y gorffennol.

Cyllidwyd yr ymchwil newydd yn rhannol drwy Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP), gan ganiatáu i fyfyrwyr israddedig presennol ennill sgiliau a phrofiad mewn ymchwil arloesol.

Ymhlith y rheini oedd yn cymryd rhan oedd y myfyriwr israddedig drydedd flwyddyn BSc Archaeoleg Faye Shearman.

"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn brofiad gwych. Mae wedi fy nghyflwyno i ddirgelwch arferion claddu'r Oes Haearn ym Mhrydain a'r technegau niferus y gallwn ni eu defnyddio i'w hastudio," dywedodd Faye. "O ganlyniad, mae'r prosiect wedi fy nghymell i barhau â fy ymchwil i arferion claddu'r Oes Haearn ar gyfer fy nhraethawd hir blwyddyn olaf."

Bydd y prosiect ymchwil  i'w weld yn y rhaglen arbennig Digging for Britain ar yr Oes Haearn (BBC4 ar 19 Rhagfyr am 9pm ac wedi hynny ar IPlayer).

Rhannu’r stori hon