Ewch i’r prif gynnwys

Labordy Ymchwil Newydd yn Canolbwyntio at y Cynnydd mewn Troseddau Casineb sy’n ymwneud â Brexit

13 Rhagfyr 2018

HateLab logo

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £1 miliwn ar gyfer y LabordyGwrthGasineb newydd, gyda’r dasg o asesu effaith digwyddiadau cenedlaethol ar lefelau o droseddau casineb a mynegi casineb.

Y gobaith yw y bydd unrhyw bigynnau a welir ar declyn newydd y Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein yn galluogi’r heddlu a’r llywodraeth i achub y blaen ar achosion o droseddau casineb ar y strydoedd.

Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Matthew Williams: “Mae Brexit wedi rhannu cymdeithas yn ddwy, ac mae’r addunedau ymddangosiadol amhosibl a wnaed gan Aelodau Seneddol oedd yn cefnogi gadael yr UE wedi creu ymdeimlad mawr o ddadrithiad i filoedd o ddinasyddion.  Yn 2019, mae Prydain yn debygol o fod yn ei hargyfwng mwyaf difrifol ers yr Ail Ryfel Byd, a beth bynnag fo’r canlyniad, boed yn ail refferendwm, Brexit ‘meddal’ neu ddim Brexit o gwbl, ceir pryder bydd y digwyddiadau yn annog mwy o droseddau casineb.”

“Fel y gwelsom yn dilyn pleidlais 2016, ac i raddau mwy eithafol yn dilyn ymosodiadau terfysgol 2017, roedd yr ymchwydd mewn mynegi casineb ar-lein yn cyd-daro â chynnydd sylweddol mewn troseddau casineb all-lein. Bydd ein hymchwil a’n technoleg yn helpu sefydliadau i adnabod rhybuddion cynnar yn gyflym mewn amser real fel bod modd iddynt gymryd camau angenrheidiol i gefnogi dioddefwyr.”

Mae arbenigwyr yn credu mai’r ymosodiadau terfysgol rhwng mis Mawrth a Mehefin y llynedd oedd prif gyfranwyr y cynnydd o 17% mewn troseddau casineb yn 2017/18.  Cofnodwyd cyfanswm o 94,098 o ddigwyddiadau gan yr heddlu, y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion. Mae awdurdodau yn paratoi ar gyfer cynnydd pellach wrth i ymadawiad y DU o’r UE nesáu.

Mae’r LabordyGwrthGasineb, rhan o Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol rhwng Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol, wedi’i sefydlu gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae’r Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chanolfan Troseddau Casineb Cenedlaethol Ar-lein Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.  Cyhoeddwyd sefydlu’r Ganolfan gan yr Ysgrifennydd Cartref yn 2016 ar ôl pleidlais Brexit, mewn ymateb i gynnydd sydyn yn y casineb a fynegir ar-lein a oedd yn targedu pobl oherwydd eu nodweddion personol.  Mae’n gyfrifol am wella profiad cyfiawnder troseddol i ddioddefwyr camdriniaeth ar-lein.

Dywedodd yr Athro Pete Burnap, arweinydd cyfrifiadurol y prosiect: “Bydd LabordyGwrthGasineb yn cynnig gwasanaeth hanfodol i’r Ganolfan newydd i gefnogi dioddefwyr yn well.  Bydd mynediad at gyfathrebu cyhoeddus amser real o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn galluogi staff y Ganolfan i fonitro casineb a fynegir ar lefel gyfunol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial moesegol ac arloesol a grëwyd yn ein Labordy.

Hyd yma, bu oedi sylweddol wrth geisio trosglwyddo gwybodaeth i staff yn dilyn digwyddiadau ‘sbarduno’. Bydd y Dangosfwrdd yn galluogi gweithwyr allweddol i gael darlun llawn o’r ymateb i ddigwyddiadau ar-lein, megis ein hymadawiad o’r UE ac ymosodiadau terfysgol, yn yr hyn a elwir yn ‘awr dyngedfennol’.

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Mae’r Labordy hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r pedwar heddlu yng Nghymru, Heddlu Manceinion Fwyaf, Llywodraeth Cymru, a nifer o elusennau troseddau casineb blaenllaw gan gynnwys Galop a Community Security Trust.

Dywedodd yr Athro Williams: “Mae’r awr ar ôl digwyddiad sy’n ‘sbarduno’ casineb, yn gyfnod hanfodol lle byddwn yn galw ‘ymatebwyr cyntaf ar-lein’.

Mae ein dadansoddiad yn dangos bod negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol gan y wasg, elusennau troseddau casineb a’r heddlu yn cael cryn sylw yn syth ar ôl ymosodiadau terfysgol. O ganlyniad, mae ganddynt y cyfle i rannu negeseuon sy’n tawelu’r dyfroedd, megis chwalu sïon a herio ystrydebau, cefnogi dioddefwyr ac atal mynegi casineb rhag lledaenu.

Yr Athro Matthew Williams Senior Lecturer

Bydd grant ychwanegol, a ddyfarnwyd o dan raglen y Llywodraeth ar ôl Brexit ESRC ym mis Tachwedd, yn galluogi LabordyGwrthGasineb i fynd i’r afael â’r prif heriau sydd ynghlwm â phenderfynu a wnaeth digwyddiadau o ddiddordeb cenedlaethol arwain at gynnydd yn nifer y troseddau mewn gwirionedd. Bydd hyn, o bosibl, yn ategu’r honiad bod pigynnau a gofnodwyd gan yr heddlu yn ganlyniad i gynnydd parodrwydd y dioddefwyr i adrodd yn unig.  Bydd y prosiect, sy’n gweithio gyda Rand Europe a’r NPCC, yn cysylltu nifer o setiau data all-lein ac ar-lein, gan gyflwyno’r darlun mwyaf cyflawn o droseddau casineb hyd yn hyn.  

Dywedodd yr Athro Daniel Wincott, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, sydd yn Gydlynydd Arweinyddiaeth ESRC ar gyfer Llywodraethu ar ôl Brexit:  "Mae gwyddonwyr cymdeithasol mewn sefyllfa unigryw i fedru holi am achosion a chanlyniadau dwys Brexit. Bydd prosiect y rhaglen Llywodraethu ar ôl Brexit yn datblygu ymchwil sylfaenol i gynhyrchu tystiolaeth a dealltwriaeth newydd.”

Bydd ymchwil LabordyGwrthGasineb yn cael ei arddangos mewn cyfarfod Grŵp Hollbleidiol Seneddol drwy wahoddiad yn unig yn San Steffan ar ddechrau 2019 i gynulleidfa o ASau, Arglwyddi, uwch-weision sifil a gwneuthurwyr polisi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.HateLab.net