Ewch i’r prif gynnwys

Waliau gobaith

5 Rhagfyr 2018

Hanesydd oedd yn dyst i gwymp wal Berlin yn cymryd rhan mewn cyfres deledu newydd sy'n edrych ar rai o waliau mwyaf eiconig y byd

Mae cael bod yn dyst i eiliadau eiconig yn hanes y byd yn brofiad prin iawn. Un myfyriwr Almeinig a welodd agor Porth Brandenburg yn ninas Berlin yn 1989 yw'r hanesydd Dr Marion Loeffler.

Mae'r Darlithydd Hanes Cymru wedi cyfnewid un brifddinas Ewropeaidd am un arall yn y rhaglen olaf mewn cyfres deledu newydd sy'n canolbwyntio ar rai o waliau mwyaf eiconig y byd.

Mae Y Wal yn edrych ar chwech o waliau mwyaf ymrannol y byd gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Mecsico, Israel a Phalestina, Korea, Cyprus a Gogledd Iwerddon. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar y cymunedau sy'n byw yng nghysgod y waliau hyn, gan drafod gobaith ac undod y rheini sy'n wynebu rhaniadau a gwahanu.

Codwyd Wal Berlin yn 1961 i rannu Dwyrain yr Almaen oddi wrth y Gorllewin, a daeth yn symbol o'r Llen Haearn rhwng yr holl Orllewin 'democrataidd' a'r Dwyrain 'Comiwnyddol' yn ystod y Rhyfel Oer.

A hithau wedi'i magu yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, a chymryd rhan mewn mudiad a ddymchwelodd y wal yn 1989, profodd Dr Loeffler y newidiadau gwleidyddol arloesol a arweiniodd at uno'r Almaen cyn symud i'r DU i fyw yn 1994.

Yn y rhaglen olaf yn y gyfres newydd hon, mae'n edrych ar sut mae natur yn cynnig patrwm ar gyfer gwella clwyfau gwleidyddol. Ers i Wal Berlin ddod i lawr 29 o flynyddoedd yn ôl, dywed:

"Lle'r oedd llain marwolaeth rhwng dwy wal gyda weiren rasel ar eu pennau, mae caeau o wenith a choed yn tyfu unwaith eto a beicwyr yn croesi'r hyn oedd unwaith yn ffin nad oedd modd ei threiddio rhwng blociau gwleidyddol gwahanol."

Mewn cyfweliad gyda'i thad cawn gipolwg ar fywyd bob dydd yn nwyrain yr Almaen.

Ychwanega: "Mae hanes fy nheulu i yn dangos y gallai plentyndod dosbarth gweithiol yn Nwyrain yr Almaen fod yn ddelfrydol, ac nad oedd y StaSi yn rheoli pob teulu yn y wlad."

Ar ôl adrodd am erchyllterau’r rhaniadau a marwolaeth sy'n rhan o hanes Waliau eiconig, gobaith sy’n rhedeg drwy’r rhaglen olaf:

"Rhaid i ni beidio ag anghofio stori iachau ar ôl rhaniadau gwleidyddol. Mae hanes yr Almaen ers 1989 yn dangos bod clwyfau'n cau, teuluoedd yn ailuno ac y gall creithiau ddiflannu pan gaiff symbolau rhaniadau eu datgymalu o'r diwedd," dywed.

A hithau'n dysgu ar lefel israddedig ac uwchraddedig yng Nghaerdydd, mae gan Dr Marion Loeffler ddiddordeb yn y ffordd mae bywydau unigol a gwleidyddiaeth yn rhyngweithio, ynghyd â rôl iaith a chyfieithu i drosglwyddo gwybodaeth a chysyniadau yn y gorffennol a'r presennol.

Mae Y Wal i'w gweld ar nos Sul, o 18 Tachwedd. Mae y rhaglen am Berlin i'w gweld ddydd Sul 16 Rhagfyr (hefyd ar gael ar S4C Clic neu BBC Iplayer).

Rhannu’r stori hon