Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Caerdydd mewn cystadleuaeth ym maes masnach ryngwladol

5 Rhagfyr 2018

Delegates at International Trade Event
Delegates gather to compete in the 2018 National Trade Academy Programme’s ‘Trade Export Challenge’

Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth yn erbyn timau o brifysgolion a cholegau eraill y wlad mewn menter o’r enw 2018 National Trade Academy Programme’s ‘Trade Export Challenge’.

Cyflwynodd myfyrwyr eu strategaethau allforio gerbron nifer o arbenigwyr yn sgîl cefnogaeth gan Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan a Llywydd Bwrdd y Fasnach, y Dr Liam Fox AS, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns AS, yn ystod ymweliad â Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

Y Ddraig Goch a Gynnar

Daeth saith tîm i gystadlu - myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Rheoli Prifysgol Abertawe, Ysgol Rheoli Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ysgol Rheoli a Busnes Prifysgol Aberystwyth a Choleg Castell-nedd Port Talbot.

Roedd dau dîm yn cynrychioli Ysgol Busnes Caerdydd, y Ddraig Goch a Gynnar, myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn rhaglenni’r ysgol ar gyfer israddedigion, ôl-raddedigion ac MBA.

Meddai Martin Stefka, un o fyfyrwyr rheoli busnes rhyngwladol yr ysgol, sydd yn ei drydedd flwyddyn bellach: “Roedd rhaglen yr academi yn brofiad gwych a roes gyfle inni ddysgu llawer am bethau ymarferol allforio. Ar ben hynny, llwyddon ni i ennill y wobr.”

Gofynnwyd i bob tîm ysgwyddo rôl uwch reolwyr cwmni cynnyrch llaeth mawr yng Nghymru i ystyried sut y gallai’r cwmni werthu ei gynnyrch yn rhyngwladol.

Meddai Frederik Ejlerson, myfyriwr blwyddyn olaf cwrs BSc Rheoli Busnes yn yr ysgol: “Mae’r profiad yma wedi ehangu fy amgyffred o rwydwaith y fasnach ryngwladol a’r ffaith bod rhaid cyflawni gorchwylion cymhleth yn gywir ac yn effeithlon er mwyn i ryngweithio economaidd ddigwydd.”

Yn rhan o'r gystadleuaeth, roedd disgwyl i bob tîm wneud y canlynol:

  • llunio cynnyrch iogwrt a fyddai’n addas i’w allforio;
  • llunio strategaeth allforio’r iogwrt;
  • cyflwyno’r canfyddiadau gerbron arbenigwyr.

Meddai’r Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd yn bwysig i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath i ategu eu hastudiaethau...”

“Roedd timau’r prifysgolion a’r colegau eraill yn gryf, hefyd. Hoffwn i longyfarch y myfyrwyr i gyd am eu proffesiynoldeb, eu cyflwyniadau rhagorol a’u tystiolaeth o waith tîm.”

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Ar ôl cyfres o gyflwyniadau gan arbenigwyr yn y diwydiant, roedd tair awr i’r myfyrwyr gwblhau eu cynlluniau busnes cyn rhoi eu cyflwyniadau.

Meddai Mona Aranea, cydymaith ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Derbyniodd ein myfyrwyr yr her hon yn frwd iawn gan amlygu tipyn o ymroddiad - maen nhw’n llawn haeddu ennill y gystadleuaeth...”

“Roedd eu gwaith dyfal ac ysbryd eu timau cyn yr her ac yn ei hystod yn ardderchog. Roedd yn dda gwylio’r modd y datblygon nhw eu syniadau a’u cyflwyno ar ffurf broffesiynol a chydweithredol iawn wedyn.”

Y to nesaf

Students from Cardiff, Swansea, Neath and Aberystwyth learning about the international trade environment
Students from Cardiff, Swansea, Neath Port Talbot and Aberystwyth learning about the international trade environment

Meddai Cong Niu, sy’n astudio MBA Caerdydd: “Roedd y rhaglen hon yn brofiad ardderchog. Rwy’n fwy ymwybodol o bwysigrwydd gwaith tîm bellach, yn enwedig y gallu i sefydlu timau a chyflawni gorchwylion yn gyflym gyda phobl nad ydw i wedi cwrdd â nhw erioed.

“Mae’r gystadleuaeth wedi fy helpu i ddeall allforio yn well, hefyd. Ar y cyfan, rwy'n credu y bydd hyn o fudd imi yn ystod cwrs MBA a'm gyrfa wedyn.”

Ychwanegodd Alice Horn, sydd ym mlwyddyn olaf cwrs BSc Rheoli Busnes yn yr ysgol: “Mae’r profiad unigryw hwn wedi cryfhau cysylltiadau â ffrindiau a’m helpu i ddysgu llawer am wahanol ddiwylliannau.”

Roedd Liam Fox, Llywydd Adran Masnach Ryngwladol San Steffan, ac Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn bresennol i gynnig adborth i’r myfyrwyr am eu cynlluniau busnes cyn iddyn nhw roi eu cyflwyniadau terfynol gerbron y beirniaid (tri arbenigwr).

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns: “Roedd yn dda gyda fi weld y to nesaf o hoelion wyth a llunwyr polisïau masnachol byd-eang mor frwd wrth eu gwaith yn rhan o’r rhaglen wladol heddiw...”

“Bydd yr her yma, ynghyd â chymorth a chyngor arbenigol rhai o fentergarwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, yn meithrin ynddyn nhw yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i lwyddo yn y dyfodol.”

Alun Cairns Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru

Sbarduno twf a ffyniant

Roedd yr achlysur yn rhan o gyfarfod ehangach Bwrdd y Fasnach a gwrddodd yng Nghymru am y tro cyntaf i gyflwyno rhai o brosiectau ynni ac isadeiledd y wlad, gwerth £240 miliwn, i fuddsoddwyr byd-eang.

Daw Bwrdd y Fasnach â rhai o brif arweinyddion y byd masnachol o bob cwr o’r deyrnas at ei gilydd i hyrwyddo allforion a chyfleoedd i fuddsoddi er twf a ffyniant y deyrnas gyfan.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.