Ewch i’r prif gynnwys

Treth Tir Gwag

18 Hydref 2018

Mark Drakeford delivering Breakfast Briefing

Mae cynulleidfa o wneuthurwyr polisi, ymarferwyr busnes a rhanddeiliaid eraill wedi clywed sut mae tryloywder yn allweddol ar gyfer datblygu polisi treth Cymru yn y diweddaraf yng Nghyfres Briffio Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ddiweddariad i arweinwyr busnes ar gynlluniau i Gymru geisio pwerau newydd i gyflwyno treth tir gwag yn y digwyddiad gorlawn ar 18 Hydref 2018 yn yr Ystafell Addysg Weithredol.

Amlinellodd Mr Drakeford y broses o brofi Deddf Cymru 2014, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig syniadau newydd o ran treth mewn meysydd o gyfrifoldebau datganoledig.

Trafodaeth gyhoeddus

Dewiswyd treth tir o restr fer o bedwar syniad treth i brofi Deddf Cymru, yn dilyn trafodaeth gyhoeddus ar syniadau treth newydd y llynedd.

Gellid defnyddio'r mesurau i atal pobl rhag bancio tir ac annog datblygu mwy amserol ar safleoedd gwag i fodloni'r gofynion tai cynyddol yng Nghymru.

Meddai Mr Drakeford: “Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar broses o drosglwyddo pwerau o lywodraeth y DU i Gymru.

“Rydym ni'n gobeithio dechrau trafod gyda Thrysorlys EM dros y misoedd nesaf, gyda golwg ar sicrhau'r pwerau yn y Flwyddyn Newydd. Ar ôl y cyfnod hwn, gallwn ddechrau datblygu polisi'n fwy ffurfiol.”

Datblygu ac adfywio

Nid syniad newydd yw treth ar dir gwag. Mae trethi eiddo wedi'u defnyddio i annog datblygu ac adfywio ar draws y byd.

Mae ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig pwynt cyfeiriol defnyddiol ar gyfer gweld sut y gallai treth tir gwag weithio yng Nghymru.

Ychwanegodd Mr Drakeford: “Rwyf i'n ymrwymo i sicrhau bod ein polisi treth yn cael ei ddatblygu mewn modd agored a thryloyw a dyna pam rydym ni wedi cael - ac yn parhau i gael - trafodaethau adeiladol gyda rhanddeiliaid...”

“Dim ond drwy'r cydweithio hwn y gallwn ni sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion heb osod unrhyw faich diangen ar ddatblygwyr a pherchnogion tir cyfrifol.”

Mark Drakeford AC Ysgrifennydd Cyllid

Rhwydwaith yw’r gyfres Briffio Brecwast Addysg Weithredol sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Cynhelir y briffio nesaf, y Pos Cynhyrchedd Prydeinig Mawr, ar 13 Tachwedd 2018 dan arweiniad yr Athro Andrew Henley.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.