Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod y ffactorau risg genetig cyffredin cyntaf ar gyfer ADHD

27 Tachwedd 2018

Genes

Mae tîm byd-eang o ymchwilwyr wedi canfod y ffactorau risg cyffredin cyntaf sy'n gysylltiedig ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), cyflwr cymhleth sy'n effeithio ar oddeutu 1 ym mhob 20 o blant.

Meddai’r Athro Anita Thapar sy’n arwain grŵp ymchwil ADHD yn rhan o’r Consortiwm Genomeg Seiciatrig: "Mae'r astudiaeth hon yn gam pwysig iawn wrth ddechrau deall sail genetig a biolegol ADHD.

"Mae gan yr amrywiadau risg genetig sy’n ymwneud â’r cyflwr hwn rôl arwyddocaol mewn prosesau craidd sy’n gysylltiedig â’r ymennydd, a phrosesau craidd biolegol eraill. Y cam nesaf yw pennu union rôl y genynnau hyn mewn ADHD i'n helpu i ddatblygu gwell triniaethau a chefnogi'r rheini yr effeithir arnynt gan y cyflwr."

Dadansoddodd y tîm wybodaeth genetig gan dros 20,000 o bobl y mae ADHD yn effeithio arnynt a thros 35,000 o bobl heb y cyflwr, yr astudiaeth eneteg fwyaf o ADHD hyd yma.

Yn ôl Dr Joanna Martin, cydymaith ymchwil yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig: "Rydym wedi nodi 12 rhanbarth genomeg lle roedd pobl ag ADHD yn amrywio o safbwynt rheolaethau, ac mae sawl un o'r rhanbarthau hyn o fewn – neu ger – genynnau sydd â pherthynas hysbys â phrosesau biolegol sy'n ymwneud â datblygiad iach yr ymennydd.

Dangosodd dadansoddiadau pellach bod risg genetig ar gyfer ADHD yn cael ei rhannu gyda'r risg ar gyfer anhwylderau seiciatrig a chorfforol, gan gynnwys iselder, gordewdra, diabetes math 2, lefelau is o golesterol HDL "da" a marwolaethau.

Canfu ymchwilwyr hefyd yr ymddengys bod ADHD wedi’i ddiagnosio yn rhannu llawer o'r un cefndir genetig â nodweddion ADHD, fel diffyg cymryd sylw ac aflonyddwch, y gellir eu mesur yn y boblogaeth gyffredinol. Wrth weithio gyda Chonsortiwm Geneteg Cynnar ac Epidemioleg Gydol Oes (EAGLE) ac ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Feddygol Queensland (QIMR), cymharwyd y risg genetig ar gyfer ADHD wedi'i ddiagnosio a nodion genetig sy'n gysylltiedig â nodweddion ADHD mewn dros 20,000 o blant a daethpwyd o hyd i gydberthynas uchel rhwng y ddau, tua 97%.

Mae'r gydberthynas rhwng y diffiniadau tra gwahanol hyn o ADHD yn awgrymu y gall ADHD clinigol wedi’i ddiagnosio fod yn benllanw difrifol dosbarthiad di-dor o symptomau yn y boblogaeth gyffredinol.

Dr Joanna Martin Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Roedd y cydweithio yn cynnwys grwpiau ymchwil o Ewrop, Gogledd America a Tsieina sy'n rhan o’r Consortiwm Genomeg Seiciatrig (PGC), yn ogystal ag ymchwilwyr o Fenter Sylfaen Lundbeck er Ymchwil Seiciatrig Integreiddiol (iPSYCH) yn Denmarc.

Dywedodd yr Athro Anita Thapar: "Mae hon yn astudiaeth arwyddocaol a nodedig gan ei bod yn cynnwys cleifion o bob rhan o'r byd. Nid oes nifer fawr o samplau cleifion fel y rhain wedi bod ar gael i ADHD, gan olygu bod ein dealltwriaeth o geneteg ADHD yn bell y tu ôl i anhwylderau corfforol ac anhwylderau seiciatrig eraill megis sgitsoffrenia ac iselder. Mae hyn yn dechrau newid, ac i Denmarc y mae’r diolch yn bennaf.

"Mae pob unigolyn ag ADHD sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella ein dealltwriaeth o'r cyflwr, ac rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn annog rhagor i gymryd rhan ac yn arwain at fwy o ddiddordeb gan y DU mewn cefnogi ymchwil ADHD."

Er bod y 12 signal genomeg a nodwyd yn yr astudiaeth hon yn bwysig, ychydig iawn o risg ar gyfer ADHD y maent yn eu nodi. Gyda'i gilydd, ffactorau genetig cyffredin oedd i’w cyfrif am tua 22% o'r risg o ADHD. Bydd rôl ffynonellau risg genetig eraill, er enghraifft newidiadau genetig prin, yn ogystal â ffactorau amgylcheddol hefyd yn bwysig i’w hystyried mewn astudiaethau ymchwil yn y dyfodol.

Mae’r astudiaeth ‘Discovery of the First Genome-Wide Significant Risk Loci For ADHD’ wedi’i chyhoeddi yn Nature Genetics.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.