Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthuso’r Defnydd o Dechnoleg Adnabod Wynebau yn Awtomatig mewn cyrchoedd plismona mawr

28 Tachwedd 2018

Two UK police officers

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnal y gwerthusiad academaidd annibynnol cyntaf o dechnoleg Adnabod Wynebau yn Awtomatig (AFR) mewn amrywiaeth o gyrchoedd plismona mawr.

Gwnaeth Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu werthusosut mae Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg Adnabod Wynebau yn Awtomatig mewn nifer o ddigwyddiadau chwaraeon ac adloniant mawr yng Nghaerdydd yn ystod cyfnod o dros flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref.

Canfu'r astudiaeth bod AFR yn galluogi'r heddlu i adnabod unigolion sy'n ymwneud ag ymchwiliad troseddol a rhai sy’n cael eu hamau na fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall. Fodd bynnag, er mwyn cael canlyniadau cyson, mae angen buddsoddiad sylweddol a newidiadau i weithdrefnau gweithredu'r heddlu.

Defnyddiodd yr ymchwilwyr nifer o ddulliau ymchwil i greu darlun clir ac i werthuso'n systematig sut mae’r heddlu yn defnyddio AFR mewn nifer o leoliadau a chyrchoedd. Mae hyn yn bwysig gan fod gwaith ymchwil blaenorol ynghylch sut y defnyddir technolegau AFR wedi tueddu i gael ei gynnal mewn amodau dan reolaeth. Mae ei ddefnyddio ar y strydoedd ac i gefnogi ymchwiliadau troseddol parhaus yn cyflwyno ystod o ffactorau sy'n effeithio ar effeithiolrwydd AFR wrth gefnogi gwaith yr heddlu.

Mae'r dechnoleg yn gweithio mewn dau ddull: Lleoli (Locate) yw'r rhaglen sy'n sganio wynebau yn y fan a’r lle ar deledu cylch cyfyng mewn ardal benodedig. Mae'n chwilio am luniau sy’n cyfateb i ddelweddau wynebau a ddewiswyd yn flaenorol o gronfa ddata o unigolion sydd o ddiddordeb i’r heddlu.

Mae ‘Adnabod’ (Identify) ar y llaw arall, yn tynnu lluniau llonydd o bobl anhysbys (fel arfer ar deledu cylch cyfyng neu gamera ffôn symudol). Caiff y rhain eu cymharu gyda chronfa ddalfa’r heddlu mewn ymdrech i gael gafael ar unigolion sy'n meddu ar wybodaeth i ddigwyddiad dan ymchwiliad. Canfu tystiolaeth o'r ymchwil nad oedd y ddelwedd o’r dull ‘Adnabod’ (Identify) o ansawdd ddigonol mewn 68% o gyflwyniadau a wnaed gan swyddogion yr heddlu.

Dros gyfnod y gwerthusiad, fodd bynnag, gwellodd cywirdeb y dechnoleg yn sylweddol ac roedd yr heddlu yn gallu ei defnyddio’n well. Roedd y system Lleoli (Locate)yn gallu adnabod person oedd o ddiddordeb i’r heddlu yn gywir tua 76% o'r amser. Arestiwyd 18 o bobl mewn lleoliadau byw (Locate) yn ystod y gwerthusiad, a chyhuddwyd dros 100 o bobl yn dilyn ymchwiliadau troseddol yn ystod y 8-9 mis y cafodd dull Adnabod AFR ei ddefnyddio (diwedd Gorffennaf 2017-Mawrth 2018).

Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai’n fwy addas ystyried AFR fel 'Cymorth i Adnabod Wynebau' wrth blismona yn hytrach na system ‘Adnabod Wynebau yn Awtomatig’. Mae 'Awtomatig' yn awgrymu mai algorithm yn unig sy’n cynnal y broses adnabod, ond mewn gwirionedd, mae'r system yn gweithredu fel offeryn i gynorthwyo bodau dynol i adnabod ac enwi pobl. Yn y pen draw, yr heddlu sy’n penderfynu a yw’r ddelwedd yn cyfateb i’r unigolyn sydd o ddiddordeb i’r heddlu. Fe'i defnyddir hefyd mewn amgylcheddau heb eu rheoli, ac felly mae ffactorau allanol yn effeithio arnynt, gan gynnwys goleuadau, tywydd a llif y dorf.

Mae ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o'r pwysau sydd ar yr heddlu i geisio atal a datrys troseddau. Cynigir bod technolegau fel Adnabod Wynebau yn Awtomatig yn chwarae rhan bwysig yn yr ymdrechion hyn. Rydym wedi ceisio defnyddio’r ymchwil hon i roi adroddiad cytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth o’r manteision, y costau a’r heriau sy'n gysylltiedig ag integreiddio AFR yn rhan o blismona o ddydd i ddydd.

Yr Athro Martin Innes Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Lewis o Heddlu De Cymru: "Roedd yn briodol ein bod wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad annibynnol o ddefnydd Technoleg Adnabod Wynebau mewn plismona. Rydym wedi dysgu llawer am y dechnoleg yn ystod y cyfnod gwerthuso, sut y gall helpu i atal a chanfod troseddau difrifol yn aml, ynghyd â sut y gall helpu ein swyddogion i gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed.

"Mae'r adroddiad yn rhoi persbectif cytbwys o sut ydym yn defnyddio'r dechnoleg. Gyda lwc, bydd yn helpu i chwalu rhai o'r camddealltwriaethau a'r wybodaeth anghywir sydd wedi ymledu ar draws y wasg.  

“Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnydd parhaus y dechnoleg mewn modd cymesur a chyfreithlon i ddiogelu'r cyhoedd, a hefyd yn aros yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut a phryd y byddwn yn ei ddefnyddio."

Mae'r adroddiad, Gwerthusiad o ddefnydd Heddlu De Cymru o Dechnoleg Adnabod Wynebau yn Awtomatig, ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.