Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu'r Academi Meddalwedd Genedlaethol

23 Tachwedd 2018

Ken Skates NSA

Mae Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd wedi ehangu i swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd, gan ymgartrefu yng Ngorsaf Wybodaeth Cyngor Casnewydd yn hen adeilad gorsaf y ddinas.

Bydd symud yn helpu i ddarparu ar gyfer y garfan gynyddol o fyfyrwyr sy’n dewis astudio am radd yn yr Academi, sy’n cynnig rhaglen arloesol ac unigryw wedi ei chanolbwyntio ar ymgysylltu â diwydiant.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae'r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn enghraifft ardderchog o'r modd y gall prifysgolion fodloni eu cenhadaeth ddinesig yn eu rhanbarthau...”

“Yn sgîl symud yr Academi i'r cyfleusterau newydd hyn, mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi datblygiad economaidd Casnewydd, gan osod cronfa o beirianwyr meddalwedd talentog wrth wraidd canolfan dechnoleg gynyddol y ddinas.”

Ken Skates AC Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Mae'r cyfleusterau newydd hefyd yn galluogi’r Academi i ehangu ei chyfleusterau gan roi lle i fyfyrwyr astudio sy’n dynwared amgylchedd y gweithle, ac sydd hefyd yn cymathu arferion gweithio’r diwydiant.

Sefydlwyd yr Academi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr diwydiant, gan gynnwys yr Alactrity Foundation yng Nghasnewydd. Mae ei hethos yn canolbwyntio ar roi prosiectau ‘bywyd go iawn’ i fyfyrwyr weithio arnynt trwy gydol eu hastudiaethau, a rhoi cyfleoedd iddynt ymgysylltu â pheirianwyr meddalwedd profiadol o’r diwydiant.

Yn ôl yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae ehangu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn arwydd o lwyddiant. Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gallu cynnal ei phresenoldeb yng Nghasnewydd gan barhau i feithrin perthynas gref rhwng ein dwy ddinas wych yn sgil hynny.

“Bydd y symud hwn yn galluogi’r Academi i adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi eu gosod a pharhau i ddenu’r busnesau gorau o ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.”

Mae’r Academi wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf gan gynyddu nifer ei myfyrwyr, cynnal ymweliadau gweinidogol a diwrnodau agored ar gyfer teuluoedd, ac ennill nifer o wobrau technoleg. Ym mis Mehefin 2017, enillodd yr Academi wobr 'Trailblazer of the Year', yng ngwobrau Technoleg ESTnet Cymru.

Cynhelir y rhaglen radd dair blynedd (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol) gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, ac mae’n helpu i fynd i’r afael â’r galw cyfredol nas diwellir am beirianwyr meddalwedd medrus yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon

Canolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg meddalwedd.