Ewch i’r prif gynnwys

Creaduriaid Rhyfeddol mewn Mytholeg a Llên Gwerin

20 Tachwedd 2018

Juliette Wood
Juliette Wood launches a new book.

Mae Dr Juliette Wood, adroddwr llên gwerin byd enwog a thiwtor Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE), wedi lansio llyfr newydd diddorol: Fantastic Creatures in Mythology and Folklore: From Medieval Times to the Present Day.

Mae Juliette wedi addysgu cyrsiau byr ac wedi cyflwyno darlithoedd cyhoeddus ar gyfer CPE ers blynyddoedd lawer ac mae'n boblogaidd gyda'n myfyrwyr. Gan ddefnyddio ffynonellau hanesyddol, chwedlau a llên gwerin, mae'r llyfr yn canolbwyntio ar rolau bwystfilod rhyfeddol - yn enwedig yr ungorn, y fôr-forwyn a'r ddraig - mewn cyfres o benodau thematig wedi’u trefnu yn ôl eu cartref chwedlonol, sef y tir, y môr neu'r awyr.  Dywedodd Juliette:

"Mi fuaswn yn hapus petai marchriffoniaid ac ungyrn yn greaduriaid go iawn. Yn wir, daeth pob un o'r anifeiliaid a ysgrifennais amdanynt yn y llyfr hwn, hyd yn oed y rhai sy'n ymddwyn yn wael, yn ffrindiau, o leiaf yn fy nychymyg. Mae bwystfilod rhyfeddol wedi bod yn sail i amrywiaeth o chwedlau, mythau a thraddodiadau hen a newydd. Mae llawer ohonyn nhw, fel môr-forynion, griffinau a dreigiau, yn gyfarwydd.

Mae rhai, fel Pegasus a'r afanc, yn tarddu o fytholeg neu mae rhai eraill, fel yr hippogriff, yn greadigaethau o ddychymyg llenyddol. Mae eraill, fel yr ungorn, wedi dod yn greaduriaid ffantasi, oherwydd bod llai o bobl yn credu ynddynt. Mae’n haws gofyn cwestiynau amdanynt na’u hateb. Ydyn nhw'n ffrwyth eich dychymyg, anghenfilod cyntefig neu ai dim ond afluniadau o rywogaethau sydd heb eu darganfod ydyn nhw?

Mae'r berthynas rhwng creaduriaid rhyfeddol a'r diwylliannau sy'n eu creu mor gymhleth ag y mae’n ddiddorol, ac mae'r llyfr hwn yn gobeithio taflu golau ar eu tarddiad a'u datblygiad a chynnig atebion rhannol o leiaf i'r cwestiynau hyn."

Mae Juliette yn parhau i addysgu yn CPE yn y flwyddyn newydd. Mae Pethau sy'n gwneud twrw gefn nos: Hud a lledrith, dewiniaeth a’r goruwchnaturiol yn dechrau ar 31 Ionawr. Dyma un o nifer o gyrsiau bywiog a diddorol sydd ar gael yn y Dyniaethau.  Dywedodd Juliette:

"Mae ffilmiau, llenyddiaeth, cyfryngau torfol a dewisiadau ffordd o fyw yn y byd heddiw yn adlewyrchu'r diddordeb parhaus mewn hud a lledrith a dewiniaeth. Mae credoau am ei fodolaeth a'r arfer wedi ffurfio agweddau o'r oes glasurol hyd heddiw. Bydd y cwrs hwn yn olrhain hanes a datblygiad syniadau am hud a lledrith a dewiniaeth. Bydd hefyd yn edrych ar sut maent yn effeithio ar lenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r 'adfywiad goruwchnaturiol' cysylltiedig. Yn ogystal bydd yn edrych ar ddatblygiadau newydd mewn paganiaeth gyfoes a diwylliant poblogaidd."

Mae Dr Juliette Wood yn arbenigwr canoloesol hefyd sy'n addysgu yn yr Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd, ac Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi ysgrifennu llawer o lyfrau ac mae hi'n aelod rheolaidd o'r panel ar gyfres In Our Time BBC Radio 4.

Mae gennym nifer helaeth o gyrsiau rhan-amser diddorol ar gyfer oedolion yn dechrau ym mis Ionawr. Mae rhestr lawn o’r cyrsiau yma.

Cewch hyd i fanylion pellach am lyfr Juliette yma.

Things that go Bump in the Night: Magic, Witchcraft and the Occult
Things that go Bump in the Night: Magic, Witchcraft and the Occult

Rhannu’r stori hon