Ewch i’r prif gynnwys

Cwmni fferyllol byd-eang yn gwobrwyo rhagoriaeth myfyrwyr

26 Tachwedd 2018

Students presented with their GlaxoSmithKline awards

Mae myfyrwyr israddedig o’r Ysgol Cemeg wedi cael nifer o wobrau gan GlaxoSmithKline (GSK) am ansawdd eu hymchwil.

Cafodd myfyrwyr BSc ac MChem gyfle i arddangos eu gwybodaeth a sgiliau i ddarpar gyflogwr, wrth i Dr Afjal Miah ymweld â'r Ysgol i gyflwyno tystysgrifau a noddwyd gan GSK a gwobrau ariannol.

Enillodd Jake Painter wobr am y Perfformiad Gorau ym mlwyddyn gyntaf Cemeg Organig, a rhoddwyd gwobr am y Perfformiad Gorau yn ail flwyddyn Cemeg Organig i dri myfyriwr: Robert Bolt, Mark Shuttleworth ac Oliver Symes.

Cafodd Matthew Williams wobr am y Perfformiad Gorau mewn Prosiect MChem yn yr Adran Synthesis Moleciwlaidd am ei waith o'r enw 'Preparation of N-Allenyl Cyanamides via Deoxycyanamidation of Propargyl Alcohols’, a oruchwyliwyd gan Dr Louis Morrill.

Ar ran GSK, dywedodd Dr Miah: "Rydym yn hoff o gefnogi datblygiad myfyrwyr a chydnabod rhagoriaeth drwy ein Partneriaethau Strategol gyda Phrifysgolion. Pleser o'r mwyaf oedd gallu cyflwyno'r gwobrau hyn i unigolion ifanc â dyfodol disglair."

Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Roedd yn bleser croesawu GSK i'r Ysgol eto eleni. Mae dathlu rhagoriaeth a gwaith caled ymhlith myfyrwyr yn rhywbeth yr ydym bob amser yn hoff o'i wneud fel Ysgol, a gyda chyfraniad cyflogwyr allanol, mae myfyrwyr yn sylweddoli nad yr Ysgol Cemeg yn unig sy'n buddsoddi yn eu dyfodol a'u datblygiad."

Mae GSK yn gwmni byd-eang sy’n ymchwilio i feddyginiaethau rhagnodol, brechiadau, a chynhyrchion traul gofal iechyd, a’u datblygu a’u cynhyrchu er mwyn helpu pobl i wneud mwy, teimlo’n well, a byw’n hirach. Mae gan y cwmni gysylltiadau agos â’r Ysgol Cemeg, gan gynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith yn ogystal ag interniaethau.

Rhannu’r stori hon