Ewch i’r prif gynnwys

Making Connections: Stonehenge in its Prehistoric World

20 Tachwedd 2018

Archeolegydd sy'n ymgymryd â PhD yn adrodd stori'r cysylltiadau rhwng Ynysoedd Prydain ac Ewrop ar y safle treftadaeth byd-enwog

Mae bywyd fel archeolegydd yn golygu nad oes yr un diwrnod yn debyg i'r nesaf. Wrth ymgymryd â'i PhD yng Nghaerdydd, mae Susan Greaney wedi bod yn cyd-guradu'r arddangosfa gyntaf a gynhaliwyd ar y cyd gan English Heritage a'r Amgueddfa Brydeinig.

A hithau'n gyfarwydd â'r enwocaf o'r holl safleoedd treftadaeth ac yn Uwch Hanesydd Eiddo gyda English Heritage, mae Susan wedi gweithio ar brosiectau yng Nghôr y Cewri ers 2009.

Gan egluro'r syniad y tu ôl i'r arddangosfa, dywedodd Susan: "Drwy gydol yr Oes Neolithig ac Efydd, roedd Côr y Cewri yn sefyll yng nghanol llanw a thrai parhaus o wrthrychau, arddulliau, pobl a syniadau."

"O gymunedau cymharol ynysig  nad oedd iddynt i bob golwg fawr o gyfathrebu y tu hwnt i Ynysoedd Prydain, i ymfudo torfol a rhannu deunyddiau crai ac arteffactau gorffenedig, mae ein hynafiaid wedi bod yn gwneud a chwalu perthnasoedd gydag Ewrop Gyfandirol ers miloedd o flynyddoedd."

Roedd y broses o ymchwilio ac ysgrifennu'r arddangosfa'n tynnu ar wybodaeth ehangach yr archeolegydd am Brydain ac Iwerddon Neolithig a ddysgodd drwy ei PhD.

"Fy hoff arteffactau yw Drymiau Folkton, o'r cyfnod Neolithig hwyr (c3000BC) a ddarganfuwyd mewn claddfa plentyn yn Swydd Efrog. Mae'r tri silindr hyn wedi'u haddurno'n gain gyda sbiralau, losenni ac wynebau arddullaidd mewn arddull addurno a welir ar Ynysoedd Prydain yn unig. Roedd gallu trin a thrafod y rhain wrth weithio ar yr arddangosfa'n gwireddu breuddwyd!" ychwanegodd.

Making Connections: Stonehenge in its Prehistoric World yn amlygu'r berthynas newidiol rhwng Ynysoedd Prydain ac Ewrop Gyfandirol drwy'r Oesoedd Neolithig ac Efydd.

Bydd yr arddangosfa ar agor am chwe mis, gan ddangos gwahanol gyfnodau o gyswllt ac ynysu cymharol rhwng Ynysoedd Prydain hynafol a thir mawr Ewrop drwy arddangos y gwrthrychau. Ymhlith y gwrthrychau gwerthfawr sydd i'w gweld mae bwyell arenfaen 6500 blwydd oed a grëwyd o garreg yn Alpau’r Eidal a darn gwddf aur coeth a wnaed tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Pan godwyd Côr y Cewri tua diwedd yr oes Neolithig, mae'n ymddangos bod y cymunedau oedd yn byw ar Ynysoedd Prydain yn gymharol ynysig. Er bod pobl yn teithio'n eang ac yn cyfnewid syniadau o Orkney i dde Lloegr, ychydig o dystiolaeth sydd ar gael o gyfathrebu helaeth gyda phobl oedd yn byw ar gyfandir Ewrop.

Mewn cyferbyniad, yn yr Oesoedd Neolithig ac Efydd cynnar, gwelwyd mudo torfol gyda dyfodiad y ffermwyr cyntaf a'r gweithwyr metel cynharaf. Mae arteffactau o'r cyfnod hwn yn datgelu bod gwrthrychau, arddulliau a chredoau crefyddol yn cael eu rhannu’n eang drwy Ewrop.

Mae dadansoddiad DNA diweddar yn nodi bod cymunedau diwylliant y Bicer, a ddaeth â thechnoleg yr Oes Efydd i Ynysoedd Prydain 4,500 o flynyddoedd yn ôl, yn rhan o fudo a ddisodlodd gymunedau Ynysoedd Prydain bron yn llwyr dros gyfnod o ychydig ganrifoedd.

Gyda Susan Greaney FSA (English Heritage) a Neil Wilkin FSA (Amgueddfa Brydeinig), yn curadu, mae Making Connections: Stonehenge in its Prehistoric World i'w weld yng nghanolfan ymwelwyr Côr y Cewri tan 21 Ebrill 2019.

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cynnig amrywiaeth eang o  astudiaethau ôl-raddedig gan gynnwys graddau Meistr, MPhil a PhD mewn Archeoleg.

Rhannu’r stori hon