Ewch i’r prif gynnwys

Cyfeillgarwch ymhlith pobl ifanc yng Nghymru

19 Tachwedd 2018

Group of friends

Yn ôl ymchwil ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, synnwyr digrifwch yw'r briodwedd bwysicaf mewn ffrind.

Canfu tîm o ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)Prifysgol Caerdydd mai gonestrwydd a charedigrwydd oedd y nodweddion mwyaf gwerthfawr nesaf.

Roedd yr ymchwil, sy'n rhan o astudiaeth aml-garfan Addysg WISERD, yn gofyn i bobl ifanc ddewis y rhinweddau pwysicaf y dylai cyfaill delfrydol eu cael, ymhlith 11 opsiwn posibl (gweler ffigwr 1).

Roedd 82% o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn gwerthfawrogi synnwyr digrifwch da; a’r nodweddion mwyaf cyffredin nesaf oedd gonestrwydd (67%) a charedigrwydd (61%).

Friendship figure 1
Figure 1

Daeth ‘gallu gweld pethau o safbwynt pobl eraill' yn y pedwerydd safle ymhlith un ar ddeg o opsiynau.

Dim ond 14% o'r rhai a holwyd a ddywedodd fod deallusrwydd yn bwysig mewn cyfaill.

Y nodweddion a ddewiswyd gan y nifer lleiaf o bobl ifanc oedd bod yn olygus (2%), ffasiynol (3%), cyfoethog (3%) a phoblogaidd (4%).

Gofynnwyd i bobl ifanc hefyd a oedd ganddynt ffrindiau yn yr ysgol oedd o ryw, hil neu ethnigrwydd gwahanol. Mae'r canlyniadau'n dangos bod gan 84% o bobl ifanc ffrindiau o ryw gwahanol yn yr ysgol. Nododd 61% bod ganddynt ffrindiau o wahanol hil neu ethnigrwydd na nhw eu hunain.

Dywedodd Dr Constantino Dumangane Jr, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r holl wybodaeth a gasglwyd yn ddefnyddiol wrth ddeall dewisiadau cyfeillgarwch pobl ifanc. Mae'r rhinweddau mae’r mwyafrif o bobl ifanc yn yr arolwg hwn wedi eu dewis yn dangos bod ganddynt feddwl agored a chyfeillion amrywiol yn eu hamgylcheddau dysgu.

"Gobeithio y bydd hyn yn golygu bod ganddynt ddinasyddiaeth ac ymgysylltiadau cymdeithasol mwy cynhwysol yn eu bywyd cymunedol wrth iddynt dyfu’n hŷn."

Rhannwyd y canfyddiadau yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), mewn digwyddiad oedd yn ceisio annog mwy o bobl ifanc i ystyried dilyn gyrfa yn y gwyddorau cymdeithasol yn y dyfodol.

Mae astudiaeth aml-garfan Addysg WISERD yn arolwg blynyddol o dros 1,000 o bobl ifanc, rhwng wyth a deunaw oed. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, mae'r astudiaeth hydredol hon wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddeall bywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Yn yr arolwg diweddaraf yn 2018, roedd gan ymchwilwyr ddiddordeb arbennig mewn safbwyntiau pobl ifanc am eu rhwydweithiau cyfeillgarwch; sut mae'r cymdeithasau hyn yn datblygu a sut mae'r cysylltiadau hyn yn effeithio ar hunaniaeth, ymddygiad, perthnasoedd a safbwyntiau pobl ifanc.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.