Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniad arloesol o £1 miliwn yw'r cyntaf i Gymru

14 Tachwedd 2018

Innovate to save participants

Bydd pobl anabl yn gallu elwa ar ofal a rennir a mwy o gyfleoedd cymdeithasol, o ganlyniad i Arloesi er mwyn Arbed.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae'r elusen anabledd blaenllaw, Leonard Cheshire, wedi cael benthyciad di-log o £1 miliwn i ddarparu gweithgareddau hamdden mewn grwpiau. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwell i bobl anabl mewn ffordd fydd hefyd yn arbed arian y sector cyhoeddus.

Cyflwynir Arloesi er mwyn Arbed mewn partneriaeth gan Y Lab, Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta. Ei nod yw darganfod, profi a chefnogi'r syniadau newydd gorau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Bydd y benthyciad a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i Leonard Cheshire roi dewis i bobl anabl i gyfuno eu taliadau uniongyrchol am ofal gyda'i gilydd. Gallant hefyd fwynhau gweithgareddau fel grŵp yn hytrach nag ar eu pen eu hunain, os ydynt yn dewis.

Yn ogystal â’r manteision cymdeithasol amlwg y bydd hyn yn eu creu ar gyfer unigolion a'u cymunedau, mae hyn yn lleihau'r gost o oriau gofal un-i-un lle nad oes eu hangen, sy'n ei wneud yn fodel newydd arloesol ar gyfer gwariant yn y sector cyhoeddus.

Mae'r lansiad cenedlaethol yn dilyn treial Leonard Cheshire ar Ynys Môn, 'Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini'. Cymerodd y bobl ran mewn gweithgareddau gan gynnwys gweithdai drama a sesiynau ffotograffiaeth.

Dywedodd Gary, un cyfranogwr ifanc: "Mae hwn wedi gwella fy hyder ac wedi agor mwy o gyfleoedd i mi."

Ychwanegodd Martin Gallagher, y cynorthwy-ydd personol sy'n cefnogi Gary: "Mae ganddo fwy o ddewis beth i'w wneud, gyda phwy, ym mhle a phryd.  Rwy'n credu bod yr hyblygrwydd a'r creadigrwydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un."

Bydd y £1 miliwn yn galluogi’r elusen i ymestyn Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini ledled Cymru dros dair blynedd. Bydd pobl anabl yn gallu mewngofnodi ar-lein i ddewis pa ofal a ddymunant. Byddant hefyd yn medru ymuno â chymuned gynyddol sy'n cael ei harwain gan anghenion, gweithgareddau a diddordebau cyffredin.

Dywedodd Rob Ashelford, Cyd-arweinydd a Phennaeth Digwyddiadau Y Lab: "Canlyniad allweddol y rhaglen Arloesi er mwyn Arbed yw helpu prosiectau i fanteisio ar gyllid risg.  Mae Leonard Cheshire wedi croesawu'r cyfle a'r rhaglen. Maent wedi datblygu syniadau cyffrous a chreu cyfleoedd pendant y gellir eu rhoi ar waith i wella'r gwasanaeth y maent yn ei gynnig.”

Mae Leonard Cheshire wedi datblygu a threialu dull newydd arloesol o gynnal gweithgareddau grŵp gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi. Rydym yn falch o allu parhau i weithio gyda nhw wrth iddynt ledaenu’r rhaglen hon ledled Cymru.

Yr Athro James Lewis Director of Y Lab

Dywedodd Mark Drakeford, Gweinidog y Cabinet dros Gyllid: "Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu rhoi £1m i’r prosiect hwn trwy'r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed.

"Bydd y cynllun Arloesi ar gyfer Cymunedau Heini yn galluogi pobl anabl i gael hyfforddiant a gwaith gwirfoddol ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal, eu cefnogaeth, a sut maent yn treulio eu hamser."

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.