Ewch i’r prif gynnwys

Gwella cysylltiadau gyda Tsieina

12 Tachwedd 2018

Academyddion gwrywaidd a benywaidd yn sefyll ac eistedd wrth ddesg gyda fflagiau Prydain a Tsieina o'u blaenau
Yr Athro Paul Milbourne a chyd-weithwyr o Brifysgol Chongqing Jiaotong yn arwyddo cytundeb adnewyddu

Ymweliad pum niwrnod yn cadarnhau cysylltiadau cyfredol ac yn edrych ar bartneriaethau newydd yn ymwneud ag addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr.

Ymwelodd yr Athro Paul Milbourne a Dr Li YU o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd â Tsieina rhwng 7 a 12 Medi 2018. Yn ystod eu hamser yn Tsieina, buon nhw yn ymweld â phedair prifysgol - Prifysgol Chongqing, Prifysgol Chongqing Jiaotong, Prifysgol y De-orllewin a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Suzhou.

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda uwch-aelodau staff gan gynnwys Is-Lywyddion prifysgolion a Deoniaid ysgolion pensaernïaeth, cynllunio trefol a daearyddiaeth.

Eglurodd yr Athro Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ddiben yr ymweliad a phwrpas y cyfarfodydd: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ac arloesi gyda'n partneriaid academaidd yn Tsieina ers amser maith. Roedd y daith hon yn gyfle i ddathlu'r cysylltiadau presennol ac edrych ar ffyrdd newydd o gydweithio."

Cydweithio

Yn ystod yr ymweliad trafodwyd nifer o gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol gan gynnwys:

  • sefydlu sefydliad ymchwil ac addysg ar y cyd (a/neu raglenni) ar draws darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig;
  • sefydlu labordy a chanolfan ymchwil dinas a rhanbarthol ar y cyd mewn data mawr a GIS;
  • creu rhaglen PhD ar y cyd;
  • creu rhaglen gyfnewid israddedig;
  • creu rhaglen ysgol haf;
  • a, nodi dinasoedd posibl ar gyfer ymweliadau astudiaethau maes myfyrwyr i Tsieina

Dywedodd yr Athro Milbourne: "Buom yn trafod ystod eang o fentrau posibl yn y dyfodol, a byddai pob un ohonynt yn cryfhau ein cysylltiadau â Tsieina ac yn creu bondiau newydd o gyfeillgarwch a cholegoldeb. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaethau ymchwil beiddgar newydd sy'n gysylltiedig â'n harbenigedd mewn daearyddiaeth ddynol a chynllunio trefol. Yn ogystal rydym yn hyrwyddo cyfleoedd cyffrous i gynyddu symudedd rhyngwladol.

Yn ystod yr ymweliad â Tsieina, llofnododd yr Athro Milbourne gytundeb adnewyddu gyda Phrifysgol Chongqing Jiaotong ar gyfer y rhaglen MSc Eco-Dinasoedd poblogaidd, lle mae'r Ysgol yn croesawu nifer o fyfyrwyr Tsieineaidd ar gyfnewid i Gaerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.