Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad mawr i ariannu Ymchwil Fragile X

9 Tachwedd 2018

Professor Simon Ward

Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi derbyn grant o bron £2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i wella’r therapïau ar gyfer yr achos anableddau dysgu etifeddol mwyaf cyffredin.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd: “Syndrom Fragile X yw’r mwtaniad genetig unigol mwyaf cyffredin sy’n achosi awtistiaeth, ac mae’n effeithio ar tua 1 o bob 5000 gwryw ac 1 o bob 8000 benyw.

“Mae’r mwtaniad genetig yn gallu achosi amrywiaeth eang o anawsterau gyda dysgu, yn ogystal â phroblemau cymdeithasol, iaith, diffyg canolbwyntio, emosiynol ac ymddygiad.

“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i gleifion sydd â syndrom Fragile X gymryd llawer o feddyginiaethau er mwyn rheoli symptomau penodol, fel ffitiau, diffyg canolbwyntio, gorgynnwrf, ymosodedd, pryder, iselder ac aflonyddwch cwsg.

“Ein nod, drwy’r arian hwn, yw rhoi sylw i’r angen hwn sydd heb ei ateb, er mwyn dod o hyd i driniaethau gwell sy’n galluogi cleifion sydd â Fragile X i reoli eu cyflwr mewn ffordd sydd orau iddyn nhw.”

Nod yr ymchwil yw darganfod cyffur newydd a fydd yn rhwystro gweithgarwch protein, LIMK1, y gwyddys ei fod ynghlwm wrth y broses o ddatblygu’r cyflwr.

“Drwy dargedu’r protein hwn, ein nod yw datblygu meddyginiaeth newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw gyda’r cyflwr, yn ogystal ag i’w teuluoedd nhw.

“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’r Gymdeithas Fragile X ac ag elusen FRAXA i wella’r triniaethau sydd ar gael.’

Meddai Becky Hardiman, Prif Weithredwr Cymdeithas Fragile X: “Gall prosiect darganfod meddyginiaethau fel yr un arfaethedig roi mewnwelediad gwerthfawr i gyffuriau posibl yn y dyfodol a all fod o fudd i’n cymuned ni.

“Rydym yn falch iawn bod y prosiect arloesol hwn yn digwydd yn y DU ac yn edrych ymlaen at gydweithio â’r tîm i roi gwybod i’r gymuned Fragile X yn y DU am y datblygiadau.”

“Rydym wrth ein boddau o weld ariannu mor arwyddocaol i’r dull newydd cyffrous hwn o ddarparu meddyginiaethau Fragile X.

“Mae FRAXA wedi cefnogi’r ymchwil hwn, gan ei fod yn cynnig posibilrwydd o driniaeth a fydd yn addasu’r clefyd mewn gwirionedd ac mae’n arloesol ac yn soffistigedig o ran ei ddulliau.  Byddwn yn dilyn cynnydd y gwaith pwysig hwn yn agos iawn,” ychwanegodd Michael Tranfaglia MD, Prif Swyddog Gwyddonol Sefydliad Ymchwil FRAXA.

Rhannu’r stori hon

Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, a’r nod yw gwneud Y Ganolfan Darganfod Meddyginiaethau yn bwynt ffocws ar gyfer darganfod meddyginiaethau ac arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a'r gymuned academaidd ehangach yn y DU.