Ewch i’r prif gynnwys

Angen newid pwyslais cadwraeth forol drofannol er mwyn gwarchod cynefin morwellt hollbwysig

7 Tachwedd 2018

seagrass

Rhaid i ni gynyddu a newid ein blaenoriaethau o ran ymdrechion cadwraeth. Mae angen defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig mewn ffordd fwy penodol er mwyn creu systemau cynaliadwy, yn ôl darn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Current Biology.

Mae’r darn, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Leanne Cullen-Unsworth o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, yn pwysleisio er bod gwarchod y riffiau cwrel sydd ar ôl yn hollbwysig, mae dirfawr angen ehangu blaenoriaethau cadwraeth forol drofannol er mwyn atal dinistrio’r dolydd morwellt.

Mae morwellt yn blanhigion blodeuol morol sy’n byw ar hyd arfordiroedd trofannol a thymherus ledled y byd. Maent wedi cael eu galw’n "ganeris y môr" am eu bod yn sensitif i'r amgylchedd newidiol, sy'n golygu y gellir defnyddio eu cyflwr fel dangosydd ar gyfer asesu cyflwr ardaloedd arfordirol.

Mae morwellt yn gynefin i bysgod, pysgod cregyn, a llysyddion morol. Mae’n hidlo’r gwaddod o’r dŵr ac yn lleddfu nerth y môr a’r ceryntau ger arfordiroedd. Yn ogystal, mae gan forwellt rôl hanfodol o ran cynnal cynhyrchiant pysgodfeydd a diogelwch bwyd yn y trofannau.

Fodd bynnag, mae dolydd morwellt dan fygythiad o ganlyniad i ansawdd dŵr arfordirol gwael a phoblogaethau arfordirol sy'n tyfu. Mae morwellt yn diflannu ar gyfradd o 7% y flwyddyn. Mae’r awduron yn dadlau bod ymchwil, cyllid ac ymdrechion cadwraeth yn diystyru morwellt gan ganolbwyntio ar riffiau cwrel.

Meddai Dr Cullen-Unsworth: “Rhaid i ni fuddsoddi er mwyn gwarchod y riffiau cwrel sydd ar ôl, heb os nac oni bai.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull mwy cyfannol o ran cadwraeth forol sy’n cydnabod rôl hanfodol y morwellt mewn systemau cynaliadwy. Mae gwarchod morwellt yn hollbwysig ar gyfer bywoliaethau a diogelwch bwyd cannoedd o filiynau o bobl, yn awr ac yn y dyfodol.

“Rhaid i ni weithredu nawr er mwyn gwarchod dolydd morwellt ac ailystyried ein hymdrechion i gydnabod rôl hanfodol y morwellt a’r gwasanaethau ecosystem y mae’n darparu i ni.”

Rhannu’r stori hon