Ewch i’r prif gynnwys

Lles digidol yn y DU

8 Tachwedd 2018

Professor Philip Alston and Dr Lina Dencik
Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Philip Alston, yn y canol, a Dr Lina Dencik o’r Lab Cyfiawnder Data

Yn ddiweddar, croesawodd y Lab Cyfiawnder Data Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig dros dlodi eithafol a hawliau dynol, yr Athro Philip Alston, er mwyn trafod materion sy’n ymwneud â lles digidol yn y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae’r Athro Alston yn ymweld â Chymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ar wahoddiad Llywodraeth y DU.

Bydd ei ganfyddiadau’n sail i adroddiad ar gyfer Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fydd yn asesu sefyllfa unigolion sy’n profi tlodi yn y DU o safbwynt hawliau dynol.

Yn y cyfarfod, daeth gweithwyr proffesiynol sy’n mynd i’r afael â thlodi, lles a hawliau dinasyddion ynghyd i rannu eu pryderon ynghylch digideiddio a dataeiddio gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai cyd-gyfarwyddwr y Lab Cyfiawnder Data, Dr Joanna Redden, “Clywon ni am y problemau a achosir gan gredyd cynhwysol a sut mae methu cael budd-daliadau’n arwain at argyfwng o ddyledion lle mae pobl yn gorfod dibynnu ar fenthyciadau diwrnod cyflog i gael deupen y llinyn ynghyd.”

Hefyd, manylodd y rhai a gymerodd ran eu pryderon am sut mae data a gesglir amdanynt yn cael ei rannu a sut gellid ei ddefnyddio i’w cosbi am ddefnyddio gwasanaethau fel banciau bwyd mewn ffyrdd anrhagweladwy.

Ychwanegodd Dr Redden, “Un o brif gasgliadau ymweliad yr Athro Alston â’r Lab a’n hymchwil ni yw bod angen trafodaeth fwy cynnil nag o’r blaen am sut mae’r defnydd o ddadansoddeg ragfynegol a systemau data ar draws y sector cyhoeddus yn datblygu.

Bydd y cyfarfod yn cyfrannu at ymchwil y Lab Cyfiawnder Data i sut y defnyddir dadansoddeg ddata yn sector cyhoeddus y DU. Caiff canlyniadau yr ymchwil hon eu cyflwyno yn Llundain nes ymlaen y mis hwn.

Rhannu’r stori hon