Ewch i’r prif gynnwys

Glowyr mewn gwledydd sy’n datblygu yn wynebu “anghydraddoldeb risg sylweddol”

7 Tachwedd 2018

Coal mining plant in South Africa

Mae astudiaeth wedi dod i’r casgliad fod cynrychiolaeth well i’r gweithwyr yn arwain at safonau uwch o ddiogelwch i lowyr.

Bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi’u hariannu gan y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH), yn cynnal gwerthusiad i arferion ymgynghori â gweithwyr ar iechyd a diogelwch galwedigaethol (OSH) mewn pyllau glo.

Roedd yr astudiaeth gymharol yn edrych ar effeithiolrwydd paratoadau i roi llais a pheth dylanwad i weithwyr ar drefniadau eu cyflogwyr ar gyfer eu hiechyd a diogelwch mewn diwydiant byd-eang.

O dan arweiniad yr Athro David Walters, edrychwyd ar sut mae gweithwyr yn cael eu cynrychioli mewn pyllau glo mewn pum gwlad – Awstralia, Canada, India, Indonesia a De Affrica.

Yn ogystal â chymharu fframweithiau a deddfwriaeth genedlaethol, cafodd profiadau gweithwyr a chynrychiolwyr eu casglu a’u gwerthuso trwy gyfres o gyfweliadau a gweithdai dros gyfnod o ddwy flynedd.

Yn Awstralia, nododd yr ymchwilwyr fod glowyr yn gallu cyflwyno eu safbwyntiau yn effeithiol i reolwyr ar faterion iechyd a diogelwch ac y gallent stopio gwneud gwaith peryglus heb ofni dial. Mae stori debyg yng Nghanada a De Affrica, er yn fwy cyfyngedig.

Nid dyma’r sefyllfa yn India ac Indonesia. Dywedodd un cynrychiolydd o India a ddyfynnwyd yn yr adroddiad: “Mae ein glowyr wedi gweithio gyda dŵr dros eu pennau (yn yr adran uchaf), rhywbeth na ddylai unrhyw un orfod ei wneud oherwydd mae’n amlwg yn anniogel. Ond fe’n gwthiwyd gan y rheolwyr i barhau gan fod hynny’n golygu cael llawer o’r cynnyrch mewn cyfnod byr o amser.”

Daeth yr astudiaeth i’r casgliad fod gymaint yn fwy y gellir ei wneud ar lefelau rhyngwladol a chenedlaethol i roi gwell cynrychiolaeth i weithwyr a gwella diogelwch mewn pyllau glo yn sgîl hynny.

Dywedodd yr Athro David Walters, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mewn gwledydd lle mae’r llywio rheoliadol yn wannach a llai o ddylanwad gan yr undebau, mae’r effaith y caiff trefniadau’r gweithle ar eu diogelwch galwedigaethol a deilliannau iechyd lawer yn llai sylweddol.

“Mae’r astudiaeth yn cynnig neges gref i’r diwydiant a’i reoleiddwyr ei fod yn hen bryd iddynt fod yn fwy cefnogol i roi cynrychiolaeth i weithwyr.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.