Ewch i’r prif gynnwys

Adnodd hyfforddiant i weithwyr llongau

6 Tachwedd 2018

Container ship at sea

Mae adnodd hyfforddi rhad ac am ddim wedi'i ddatblygu i helpu i wella bywydau morwyr o amgylch y byd.

Mae'r Athro Helen Sampson o Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr (SIRC) Prifysgol Caerdydd, wedi datblygu'r adnodd i helpu gwella cysylltiadau rhwng y rheini sy'n gweithio ar y llongau a'r staff ar y lan.

Mae dros 1.5 miliwn o bobl yn gweithio ar y môr, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac yn treulio cyfnodau hir oddi cartref. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos tensiynau systemig rhwng morwyr a phersonél sy'n gweithio ar dir sych o fewn yr un sefydliadau.  Mae materion sydd o bryder penodol i forwyr yn cynnwys cael eu tarfu gan alwadau yn hwyr yn y nos, cael eu llethu gan geisiadau ailadroddus am yr un wybodaeth, a'r disgwyliad i ymateb yn ddiymdroi i ofynion cleientiaid.

Bydd animeiddiad ynghyd â chanllaw hyfforddiant ysgrifenedig ar gael i bob gweithiwr llong fel adnodd am ddim. Maent wedi'u paratoi gyda chefnogaeth ariannol gan Sefydliad Lloyd's Register.

Bydd yr Athro Sampson, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn lansio'r animeiddiad yng nghynhadledd CrewConnect Global ym Manila ar 6 Tachwedd.

Dywedodd: "Mae'n bwysig bod staff y lan a staff y môr yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Pwrpas yr adnodd animeiddiedig yw cynorthwyo cwmnïau i hyfforddi personél ar y lan sydd heb sgiliau technegol, sy'n rhyngweithio'n rheolaidd â'r gweithwyr ar fwrdd y llongau.

Nod y ffilm yw cynyddu dealltwriaeth pobl o sut beth yw byw a gweithio ar fwrdd llong. Rydym yn credu bod modd gwella cysylltiadau yn sylweddol drwy godi ymwybyddiaeth o gyd-destun gwaith/bywyd ar longau yn unig. Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i greu'r adnodd a, gyda lwc, bydd y diwydiant yn defnyddio’r animeiddiad yn eang."

Sefydlwyd SIRC yn 1995 er mwyn cynnal ymchwil am forwyr. Mae gan y Ganolfan bwyslais penodol ar faterion iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma'r unig gyfleuster ymchwil rhyngwladol o'i fath ac mae wedi cynyddu profiad o ymchwil yn y maes sydd heb ei ail.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.