Ewch i’r prif gynnwys

Newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth ar ôl llifogydd

1 Medi 2015

Flooded road with Flood triangle warning sign

Mae pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dywydd garw yn fwy tebygol o lawer o weithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd

Mewn papur a gyflwynwyd heddiw yng Nghynhadledd Ryngwladol Flynyddol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, dywedodd Dr Christina Demski o Ysgol Seicoleg y Brifysgol bod y bobl y cafodd llifogydd 2013/14 effaith uniongyrchol arnynt – sampl o Swydd Gaerloyw, Dyfnaint, Dorset, Gorllewin Cymru, Cernyw a Dyffryn Tafwys – yn ymgysylltu llawer mwy â'r newid yn yr hinsawdd o gymharu â sampl cenedlaethol.

Yn ôl Dr Demski, mae'r ymgysylltiad cynyddol hwn yn gyfystyr â chefnogaeth gynyddol ar gyfer polisïau a luniwyd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â gweithgarwch personol i helpu i drechu'r broblem.

Yn ôl y papur, mae'r canfyddiadau'n gyfle pwysig i wyddonwyr amgylcheddol a llunwyr polisi ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch peryglon y newid yn yr hinsawdd yn y DU a thu hwnt, yn enwedig gan fod gwyddorau'r hinsawdd yn dangos y bydd pobl yn fwyfwy agored i dywydd eithafol fel llifogydd yn y dyfodol.

Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar arolwg o 995 o unigolion y cafodd llifogydd gaeaf 2013/2014 yn y DU, mewn pum ardal yng Nghymru a Lloegr, effaith arnynt, a chynhaliwyd arolwg o 1,002 o unigolion ledled Prydain hefyd er mwyn cymharu â sampl cenedlaethol.

Mae'r papur yn adeiladu'n sylweddol ar astudiaeth a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar 162 o bobl oedd â phrofiad uniongyrchol o lifogydd 2013/2014, ac yn cymharu eu safbwyntiau â barn y sampl cenedlaethol.

"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod profiadau o lifogydd wedi dylanwadu ar agweddau tuag at newid yn yr hinsawdd, ac yn codi ei amlygrwydd ymhlith y rheini y cafodd y llifogydd effaith arnynt," meddai Dr Demski. "Er enghraifft, mae'r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o lifogydd 70% yn fwy tebygol o ddweud bod y newid yn yr hinsawdd yn un o'r tair problem fwyaf fydd yn wynebu Prydain yn yr 20 mlynedd nesaf. Yn yr un modd, mae 31% o'r rheini y cafodd y llifogydd effaith arnynt yn ystyried y newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol neu ddifrifol iawn i'w hunain ac i'w teulu, o'i gymharu â dim ond 18% yn y sampl cenedlaethol.

"Efallai'n fwy diddorol, mae'r ymgysylltiad cynyddol hwn â'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn gyfystyr â rhagor o gefnogaeth ar gyfer camau gweithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, er enghraifft cefnogaeth wrth i'r DU ymrwymo i gytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar allyriadau carbon, a mwy o bobl yn bwriadu ymgymryd â gweithgarwch personol i helpu i drechu'r broblem, er enghraifft lleihau faint o ynni a ddefnyddir yn y cartref.

"Mae pobl yn gwneud cysylltiadau rhwng eu profiadau a phroblem y newid yn yr hinsawdd. Gall hyn arwain at ystyried y newid yn yr hinsawdd yn broblem sy'n bersonol berthnasol, ac arwain at gefnogaeth gynyddol ar gyfer polisïau a luniwyd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a gwneud pobl yn fwy parod i newid eu hymddygiad."

Ychwanega'r Athro Nick Pidgeon o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, arbenigwr seicoleg amgylcheddol a fu hefyd yn gweithio ar y prosiect: "Mae'n rhaid ymdrin â thywydd eithafol drwy fod yn hynod sensitif i'r niwed a'r aflonyddwch maent yn ei achosi, ond credwn ei fod yn gyfle pwysig i wyddonwyr amgylcheddol a llunwyr polisi gychwyn trafodaeth adeiladol â'r cyhoedd ynghylch risgiau cynyddol y newid yn yr hinsawdd a'i effaith gysylltiedig ar y DU a mannau eraill."

Rhannu’r stori hon