Ewch i’r prif gynnwys

Datrys hanes galaethau

27 Awst 2015

Galaxy

Arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn dangos y dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o drawsffurfiad galaethau

Am y tro cyntaf erioed, mae tîm o wyddonwyr rhyngwladol, o dan arweiniad seryddwyr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, wedi dangos y gall galaethau newid eu strwythur yn ystod eu hoes.

Drwy arsylwi'r awyr fel y mae heddiw, a syllu'n ôl mewn amser gan ddefnyddio telesgopau Hubble a Herschel, mae'r tîm wedi dangos bod cyfran fawr o alaethau wedi trawsnewid yn aruthrol ers iddynt gael eu ffurfio ar ôl y Glec Fawr.

Drwy ddangos y dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o'r graddau y mae galaethau'n trawsnewid, mae'r tîm yn gobeithio datgelu'r prosesau a achosodd y newidiadau dramatig hyn, gan arwain, felly, at well dealltwriaeth o ymddangosiad a nodweddion y Bydysawd fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Yn eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn The Monthly Notices of the Royal Astronomical Society, arsylwodd yr ymchwilwyr tua 10,000 o alaethau sy'n bresennol yn y bydysawd ar hyn o bryd, gan ddefnyddio arolwg o'r awyr a grëwyd gan brosiectau ATLAS a GAMA Herschel.

Yna, fe wnaeth yr ymchwilwyr ddosbarthu'r galaethau'n ddau brif fath: galaethau gwastad, siâp disg sy'n cylchdroi (yn debyg i'n galaeth ni, y Llwybr Llaethog); a galaethau mawr, sfferaidd sydd â haid o sêr ar hap.

Gan ddefnyddio telesgopau Hubble a Herschel, fe wnaeth yr ymchwilwyr edrych ymhellach i'r Bydysawd, ac felly, ymhellach yn ôl mewn amser, i arsylwi'r galaethau a ffurfiwyd yn fuan ar ôl y Glec Fawr.

Dangosodd yr ymchwilwyr bod 83 y cant o'r holl sêr a ffurfiwyd ers y Glec Fawr wedi'u lleoli mewn galaeth siâp disg i ddechrau.

Fodd bynnag, dim ond 49 y cant o'r sêr sy'n bodoli yn y Bydysawd heddiw sydd yn y galaethau siâp disg hyn — mae'r gweddill mewn galaethau sfferaidd.

Mae'r canlyniadau'n awgrymu trawsnewid anferth wrth i alaethau siâp disg newid yn alaethau sfferaidd.

Damcaniaeth boblogaidd yw mai llawer o drychinebau cosmig achosodd y trawsnewid, wrth i ddwy alaeth ddisg a grwydrodd yn rhy agos at ei gilydd eu gorfodi gan rym disgyrchiant i uno'n un alaeth. Byddai'r uniad yn dinistrio'r disgiau ac yn creu pentwr enfawr o sêr. Theori groes yw bod y trawsnewid wedi bod yn broses fwy addfwyn, wrth i sêr a oedd wedi'u ffurfio mewn disg symud yn raddol i ganol disg, a chreu pentwr canolog o sêr.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Steve Eales, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd:"Mae llawer o bobl yn y gorffennol wedi honni bod y trawsnewid hwn wedi digwydd, ond drwy gyfuno Herschel a Hubble, am y tro cyntaf erioed, rydym wedi gallu mesur graddau'r trawsnewid hwn yn fanwl gywir.

"Galaethau yw blociau adeiladu sylfaenol y Bydysawd, felly mae'r trawsnewid hwn wir yn cynrychioli un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn ymddangosiad a nodweddion y Bydysawd yn yr 8 biliwn blynedd ddiwethaf."

Rhannu’r stori hon