Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect y gyfraith wedi'i enwebu ar gyfer gwobr iawnderau dynol uchel ei bri

27 Awst 2015

Innocence Project

Prosiect Ysgol y Gyfraith wedi'i enwebu ar gyfer gwobr iawnderau dynol uchel ei bri

Mae Prosiect Innocence Ysgol y Gyfraith Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Iawnderau Dynol Liberty 2015, i gydnabod ei waith diflino yn brwydro yn erbyn aflwyddiant cyfiawnder.

Mae Prosiect Innocence - lle mae myfyrwyr yn gweithio ar achosion go iawn o aflwyddiant cyfiawnder posibl - wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Pobl Ifanc Christine Jackson, sy'n wobr uchel ei bri. 

Y llynedd, o dan oruchwyliaeth yr Athro Julie Price a Dr Dennis Eady, roedd myfyrwyr y gyfraith ar Brosiect Innocence wedi helpu i wrthdroi collfarn anghyfiawn o lofruddiaeth ar gyfer Dwaine George, ar ôl 12 mlynedd yn y carchar.

Caerdydd yw'r cyntaf o blith prifysgolion y DU i lwyddo i wrthdroi collfarn anghyfiawn.

Mae Gwobrau Iawnderau Dynol Liberty yn dathlu llwyddiant sefydliadau ac unigolion o amrywiol gefndiroedd, sydd wedi gweithio'n ddiflino i amddiffyn a hyrwyddo rhyddid sylfaenol ar adeg pan mae'r consensws iawnderau dynol ar ôl y rhyfel yn wynebu ymosodiad digyffelyb.

Dywedodd yr Athro Julie Price, Pennaeth Pro Bono a Chyfarwyddwr Prosiect Innocence Prifysgol Caerdydd: "Mae ein myfyrwyr sy'n weithwyr achos ar Brosiect Innocence yng Nghaerdydd, nawr ac yn y gorffennol, wrth eu bodd, er nad ydynt yn gwybod pwy sydd wedi eu henwebu. Rydym ni, a nhw, am dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr o blith y myfyrwyr, a'r staff goruchwylio, yn yr holl brifysgolion sy'n gweithio ar achosion anodd ar ran pobl sy'n mynnu eu bod yn ddiniwed. Hefyd, i Dr Michael Naughton am ei weledigaeth wrth ddechrau'r Prosiect Innocence cyntaf yn y DU, ac i'r holl deuluoedd a'u cefnogwyr sy'n dioddef yn sgîl collfarnau anghyfiawn".

Dywedodd Dr Dennis Eady – Cynghorydd Achos yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd – sy'n gyfrifol am y prosiect o ddydd i ddydd; "Mae cymaint o waith da wedi'i wneud gan fyfyrwyr ein Prosiect Innocence. Yn y pen draw, mae'r rhan helaeth o'r gwaith hwn, yn anffodus, yn methu yn wyneb system apêl anhyblyg.  Mae'r gydnabyddiaeth ar gyfer y gwaith a wnaed ar achos Dwaine George yn rhoi hwb enfawr i'n myfyrwyr ymroddgar.

"Rwy'n llongyfarch tîm Dwaine George ar eu llwyddiant anhygoel. Mewn gwirionedd, y myfyrwyr wnaeth y datblygiadau allweddol. Ond, rwy'n gobeithio y bydd yr enwebiad yn cael ei ystyried yn gydnabyddiaeth ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio hyd eithaf eu gallu ar lawer o achosion, ac wedi dangos ymroddiad i achos lle mae'r gwaith mor galed, a llwyddiant mor brin ac anodd ei sicrhau."

Cafodd Caitlin Gallagher, sydd bellach yn gyfreithiwr cymwys, ei hethol yn Swyddog Innocence yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac aeth i ymweld â Dwaine George yn y carchar wrth weithio ar ei achos.

Dywedodd Caitlin Gallagher: "Pleser yw clywed bod Prosiect Innocence Ysgol y Gyfraith Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Pobl Ifanc Christine Jackson.  Mae Prosiect Innocence Ysgol y Gyfraith Caerdydd wedi'i sefydlu ers bron i 10 mlynedd, ac mae'n hynod galonogol bod y myfyrwyr a'r staff sy'n gweithio'n ddiflino i wrthdroi collfarnau anghyfiawn wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith maent yn ei wneud.  Roeddem yn ffodus bod Dwaine wedi ymddiried ynom i weithio ar ei achos, a bod cynifer o bobl wedi rhoi o'u hamser mor garedig."

Dywedodd Shami Chakrabarti, Cyfarwyddwr Liberty: "Cynhelir gwobrau eleni o dan y cysgod tywyllaf - y bygythiad i'n Deddf Iawnderau Dynol, ein harf mwyaf dybryd ar gyfer diogelu rhyddid sylfaenol a dal y rhai pwerus i gyfrif.

"Ar hyn o bryd, mae'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn dathlu'r pŵer a geir yn sgîl gweithredu ar y cyd ac ymgyrchu eofn, ac yn ein hatgoffa ein hunain y gellir herio camwybodaeth gwenwynig, gwleidyddiaeth rwygol ac anghyfiawnder ofnadwy, ac y bydd yn cael ei herio, ei amlygu, a'i ddirwyn i ben."

Mae gan oddeutu 35 o brifysgolion ledled y DU brosiectau tebyg i Brosiect Innocence Caerdydd, lle mae myfyrwyr y gyfraith yn gweithio ar achosion go iawn, o dan oruchwyliaeth academyddion a chyfreithwyr sy'n ymarfer, ar adegau. Mae'n bosibl mai nhw yw'r llygedyn olaf o obaith i bobl sy'n honni eu bod wedi cael eu collfarnu ar gam.

Mae Gwobrau Iawnderau Dynol Liberty yn agored i'r cyhoedd, a chânt eu cynnal ar 7 Medi yng Nghanolfan Southbank Llundain. Bydd y noson wobrwyo'n cael ei harwain gan yr awdur, yr actor a'r digrifwr, Jo Brand.