Ewch i’r prif gynnwys

Anghydraddoldebau lles plant yn y DU

30 Hydref 2018

Holding hands

Mae plant yng Ngogledd Iwerddon 80% yn llai tebygol na phlant yng Nghymru o fod mewn gofal maeth neu ofal preswyl, yn ôl astudiaeth.

Cyfrannodd yr Athro Jonathan Scourfield a Dr Martin Elliott o Brifysgol Caerdydd i’r ymchwil ledled y DU a ddadansoddodd data 36,000 o blant sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau gwarchod plant.

Dangosodd y canfyddiadau pe bai Cymru yn gallu lleihau nifer y blant sydd mewn gofal i’r un raddfa â Gogledd Iwerddon, byddai 2,000 yn llai o blant Cymru yn byw oddi cartref.

Daeth i’r amlwg hefyd fod pobl ifanc o Ogledd Iwerddon 50% yn llai tebygol o fod mewn gofal maeth neu ofal preswyl na phlant yn Lloegr, a 130% yn llai tebygol na phlant yn yr Alban. Yn gyffredinol, pe bai gweddill y DU yn dilyn yr un polisïau â Gogledd Iwerddon, byddai 31,500 yn llai o blant mewn gofal.

Dangosodd yr astudiaeth fod plentyn yng Nghymru, sy’n byw yn un o 20% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig y DU, 13 gwaith yn fwy tebygol o fod o dan ofal i ffwrdd o rieni, perthnasau neu ffrindiau na phlentyn yn yr 20% lleiaf difreintiedig. Dangoswyd tueddiadau tebyg ar draws y DU.

Yn ogystal, canfuwyd gwahaniaethau enfawr gan ymchwilwyr o ran lle y rhoddwyd plant o dan ofal. Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, fe aeth tua hanner o blant o dan ofal i aros gyda pherthynas arall neu ffrind, o’i gymharu ag ychydig dros 25% o blant o dan ofal yng Nghymru, ac un o bob chwech yn unig yn Lloegr.

Casglwyd data gan 55 awdurdod neu ymddiriedolaeth leol o ddyddiad penodol yn 2015 ar gyfer yr astudiaeth. Bu’r ymchwilwyr yn dadansoddi oedran y plant, rhyweddau, categorïau ethnig, a’r math o gam-drin neu esgeuluso a brofwyd os oeddent ar gynllun diogelu plant.  Cafwyd hefyd asesiad o lefelau amddifadedd yr ardaloedd lle’r oedd pob plentyn yn byw.

Dywedodd Dr Martin Elliott, o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae anghydraddoldeb amlwg yma, o fewn a rhwng gwledydd yn y DU. Gallai llunwyr polisi ddysgu gwersi o’r hyn sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Rhan bwysig o leihau’r angen i blant gael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf yw gwneud ymdrechion i leihau tlodi teuluoedd.”

Mae Anghydraddoldebau Lles Plant ym Mhedair Gwlad y DU ar gael yma

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.