Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd

23 Hydref 2018

Scholarship awardees
Myfyrwyr ysgoloriaeth (Chwith i’r Dde) Ellie Payce, Benjamin Chiffers, Samantha Fagan, Laura Mapledoram, Matilda Teale, Rachel Elwin, Jacob Rhodes, Luke Shepherd gyda Phennaeth yr Ysgol yr Athro Damien Murphy (canol).

Mae un ar ddeg o fyfyrwyr newydd a ddechreuodd astudio yn yr Ysgol Cemeg yn 2018/19 wedi derbyn Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd am gyflawniad academaidd yn eu harholiadau Safon Uwch.

Fe wnaeth pob myfyriwr dderbyn AAA neu uwch yn eu harholiadau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) a chael eu dewis i dderbyn gwobr Ysgoloriaeth y Brifysgol i gydnabod eu cyflawniadau academaidd ardderchog. Bydd pob un yn derbyn ysgoloriaeth o £3,000.

Enillwyr yr ysgoloriaeth yw Ellie Payce, Benjamin Chiffers, Samantha Fagan, Laura Mapledoram, Matilda Teale, Rachel Elwin, Ben Grills, Rhys Lewis, Jacob Rhodes, Luke Shepherd ac Angus Walker.

Mae Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd yn adlewyrchu safon ardderchog y ceisiadau yr ydym yn eu derbyn gyda'r mwyafrif helaeth o'n myfyrwyr yn penderfynu ar Gaerdydd fel eu dewis cyntaf o Brifysgol.

Rydym yn croesawu'r holl fyfyrwyr i'r Ysgol ac yn gobeithio y byddan nhw'n mwynhau eu profiadau wrth astudio ar gyfer eu gradd cemeg yma yng Nghaerdydd.

Os oes gennych ddiddordeb yn yr ysgoloriaethau sydd ar gael yma, ewch i'n tudalennau gwe cyllid ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Rhannu’r stori hon