Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn cau’r bwlch mewn sgiliau logisteg

29 Hydref 2018

Aerial view of shipping containers

Bydd myfyrwyr sydd ag uchelgeisiau gyrfaol yn y diwydiant logisteg mewn safle cryfach nag erioed diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a NOVUS.

Mae darlithoedd gan westeion sector-benodol, mentora, hyfforddiant gyrfaol a chyfleoedd am leoliadau diwydiannol ymysg rhai o’r manteision i israddedigion sy’n arbenigo mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ar y BSc Rheoli Busnes yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae NOVUS yn gweithio gyda phrifysgolion o bob rhan o’r DU i gefnogi datblygiad myfyrwyr a chau’r bwlch sgiliau yn y diwydiant logisteg.

NOVUS logo

Yn barod i weithio

Dywedodd Dr Andrew Potter, Darllenydd mewn Logisteg a Thrafnidiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae gwerth gwybodaeth arbenigol am logisteg a chadwyni cyflenwi wedi’i hen gydnabod, ac nawr mae’r cynllun NOVUS Lite yn ffordd wych o gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddechrau yn y diwydiant...”

“Rydym yn ffodus o fod yn un o’r canolfannau arweiniol yn y DU ar gyfer ymchwil rheoli logisteg a chadwyni cyflenwi, felly mae’r bartneriaeth hon â NOVUS yn ddatblygiad cyffrous i’n myfyrwyr a fydd yn ennill gwybodaeth ar sail ymchwil a sgiliau cyflogadwyedd gwell.”

Yr Athro Andrew Potter Reader in Logistics and Transport, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Mae Prifysgol Caerdydd, sef y diweddaraf i ymuno â’r cynllun NOVUS Lite, yn ymuno â Phrifysgol Aston, Prifysgol Derby, Prifysgol Hull a Phrifysgol Northumbria i roi graddedigion logisteg a gweithrediadau, a rheini’n barod i weithio, ar flaen y gad o ran eu dysgu ac uchelgeisiau addysgu.

Y genhedlaeth nesaf

Graduates with caps and gowns
“NOVUS Lite yn bluen arall yn ein cap”

Ychwanegodd yr Athro Helen Williams, Deon Cyswllt Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer Dysgu ac Addysgu: “Mae cyflogadwyedd yn rhan fawr o’n dysgu ac addysgu, felly mae cymryd rhan yn y cynllun NOVUS Lite yn bluen arall yn ein cap...”

“Ac, wrth gwrs, yn unol â’n hethos gwerth cyhoeddus, rydym yn helpu i hyfforddi ac ysgogi arweinwyr y dyfodol yn un o feysydd y farchnad swyddi lle nodwyd diffyg sgiliau.”

Yr Athro Helen Williams Associate Dean for Learning & Teaching

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd un o’r grwpiau mwyaf yn y byd o staff academaidd logisteg a rheoli gweithrediadau, gydag arbenigwyr mewn mathemateg, economeg, peirianneg, daearyddiaeth, y gyfraith, rheolaeth a seicoleg.

Dysgwch sut mae eu haddysgu yn ceisio magu a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr logisteg a rheoli gweithrediadau ar y BSc Rheoli Busnes.

Mae NOVUS yn sefydliad dielw sy’n gweithredu dan ymbarél Y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth yn y DU (CILT (UK)).

CILT (UK) yw'r sefydliad aelodaeth i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â symud nwyddau a phobl a'u cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.