Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr gwyrddni i staff y Gwasanaethau Proffesiynol

5 Mehefin 2015

Staff yn derbyn y Wobr Efydd am Green Impact

Mae staff Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol wedi derbyn gwobr efydd yng Ngwobrau Green Impact Undeb Myfyrwyr Prydain. Cynllun gwobrau ac achrediad  amgylcheddol yw Green Impact sydd yn annog arferion gwaith cynaliadwy mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae’r tîm wedi sefydlu arfer da gan lynu at weithdrefnau cynaliadwy yn y swyddfa gan gynnwys argraffu yn ddwy ochrog a ddefnyddio iPads mewn cyfarfodydd yn hytrach nag argraffu papurau ac atodiadau. Gyda blodau lliwgar a phlanhigion yn ychwanegu at amgylchedd y swyddfa, mae’n lle braf i weithio!

Cyflwynwyd tystysgrif i’r tîm gan yr Is-Ganghellor Colin Riordan mewn seremoni ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.

Dywedodd Catrin Stephens, Rheolwr Cefnogi Staff yr Ysgol: ‘Rwy’n falch iawn o lwyddiant y tîm a hoffwn ddiolch yn arbennig i Lowri Sion am arwain  y prosiect. Y nod nawr yw cyrraedd y safon aur ac rwy’n siwr y byddwn yn llwyddo i wneud hynny’n fuan’.

Rhannu’r stori hon