Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae technolegau ar-lein yn trawsnewid troseddu trefnedig rhyngwladol

24 Hydref 2018

Hacker

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn arwain prosiect ymchwil newydd mawr fydd yn asesu sut mae technolegau newydd yn dylanwadu ar droseddu trefnedig rhyngwladol (Cyber-TNOC).

Mae’r Athro Mike Levi, Dr Luca Giommoni a’r Athro Matthew Williams, sy’n droseddegwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ynghyd â’r Athro Pete Burnap o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi cael gafael ar arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i archwilio’r ffyrdd y mae troseddwyr yn defnyddio technolegau cyfrifiadurol ar-lein.

Bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar gaethwasiaeth fodern, gwerthu cyffuriau anghyfreithlon, lledaenu meddalwedd ddrwg a gwyngalchu arian, gan gynnwys defnyddio ‘mulod arian’. Mae’r troseddau hyn yn cynhyrchu llawer o ddata ar-lein o ganlyniad i’r holl gyfathrebu a thechnolegau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan fasnachwyr anghyfreithlon, codwyr meddalwedd ac ar gyfer trafodiadau anghyfreithlon.

Drwy gasglu’r data newydd hwn, yn ogystal â dod â chyfweliadau a chofnodion gweinyddol ynghyd, bydd y tîm yn cynhyrchu’r llun mwyaf eglur hyd yn hyn o sut mae technolegau ar-lein yn dylanwadu ar droseddu trefnedig rhyngwladol.

Bydd yr astudiaeth yn dwyn ynghyd academyddion o Brifysgol Cattolica del Sacro Cuore Milan, Prifysgol Surrey a Phrifysgol Montreal.

Bydd y tîm yn gweithio’n agos gyda chyrff o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys CIFAS, sy’n sefydliad atal twyll, cwmni gwasanaethau proffesiynol Deloitte, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Meddai’r Athro Levi, sy’n cynghori Adran Europol dros Asesu Bygythiadau gan Droseddu ar y We: “Wrth i gymdeithasau ar draws y byd fynd yn fwyfwy cydgysylltiedig a digidol, mae troseddu trefnedig yn ymaddasu i’r dirwedd newydd hon ac yn integreiddio technolegau newydd i mewn i’r ffyrdd y maent yn gweithio. Mae data Europol yn dangos cynnydd sylweddol mewn grwpiau rhyngwladol sy’n gweithredu o fewn yr UE yn 2017, o’u cymharu ag yn 2013, ac yn eu dulliau o hwyluso eu gweithgareddau ar-lein hefyd.

“Yn Ebrill 2018, fe arestiodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol grŵp o droseddwyr oedd yn gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn y DU, yr UD, Canada, Awstralia, yr Ariannin a Singapôr drwy wefan ar y we dywyll. Fe wnaeth y gang Rwsiaidd, oedd yn gyfrifol am ‘botnet Koobface’ a oedd yn lledaenu drwy rwydweithiau cymdeithasol, heintio hyd at 800,000 o beiriannau ar draws y byd, gan ennill $2 filiwn y flwyddyn.

Hefyd, gall masnachwyr anghyfreithlon ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol a gwefannau hysbysebu er mwyn masnacha, recriwtio, gwerthu a chamfanteisio ar ddioddefwyr o gaethwasiaeth fodern. Mae’r grwpiau troseddol hyn yn gorfod defnyddio Arian Cyfred Rhithiol Canoledig neu Arian Cyfred Cêl er mwyn cuddio tarddiad anghyfreithlon eu harian ac er mwyn buddsoddi yn yr economi cyfreithiol.

Yr Athro Michael Levi Professor

Meddai’r cyd-ymchwilydd Dr Luca Giommoni: “Mae troseddu trefnedig yn newid yn gyflym. Mae angen i ymchwilwyr a gweithwyr yn y maes ddatblygu dulliau arloesol o ymateb i sut mae grwpiau troseddu trefnedig yn camddefnyddio technolegau ar-lein.

“Y prosiect hwn fydd y cyntaf i adeiladu sail gref o dystiolaeth er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau. Bydd yr ymchwil yn dadansoddi mathau newydd a thraddodiadol o ddata drwy ddefnyddio dadansoddiadau o rwydweithiau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial. Bydd y fath waith yn gallu trawsnewid sut gall llywodraethau, cyfiawnder troseddol a’r sector preifat fynd i’r afael â’r troseddau hyn sy’n cael effaith enfawr ar draws y byd.”

Bydd y tîm yn cychwyn eu hymchwil ym mis Ionawr 2019, a disgwylir i’w canfyddiadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn 2020-21.