Ewch i’r prif gynnwys

Miloedd yn mynd i weld eu meddyg teulu ynghylch problemau deintyddol

23 Hydref 2018

People in waiting room

Mae diffyg ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau llawn y gall deintyddion eu cynnig, a'r disgwyliad y bydd amser hir i'w aros am apwyntiadau, ymhlith y rhesymau pam aeth 380,000 o bobl yn y DU y llynedd i weld eu meddyg gyda phroblem ddeintyddol. Fe ychwaneguodd hyn yn ddiangen at amseroedd aros am apwyntiad gyda meddyg teulu.

Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a gynhaliodd gyfweliadau gydag oedolion ar draws y DU, mae pobl yn trefnu apwyntiad gyda'u meddyg teulu yn hytrach na mynd i weld deintydd am nifer o resymau cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • anfodlonrwydd â gofal deintyddol yn y gorffennol
  • diffyg gwybodaeth am sut i ddod o hyd i ddeintydd
  • profiadau gwael o driniaeth ddeintyddol yn y gorffennol
  • pryderon ynghylch faint gallai triniaeth ddeintyddol ei gostio
  • pryderon ynghylch amseroedd aros
  • A diffyg gwybodaeth bod deintyddion yn delio â phroblemau â'r gymiau neu feinweoedd meddal arall yn y geg.

Yn ôl Dr Anwen Cope, o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Caiff ei gymryd yn ganiataol yn aml fod pobl yn ymweld â'u meddyg pan mae ganddyn nhw broblem ddeintyddol gan nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i ddeintydd. Er bod hynny'n wir ar gyfer rhai cleifion, nid dyma'r darlun cyflawn. Mae ein hymchwil wedi datgelu amrywiaeth o resymau pam y gallai cleifion fynd at y meddyg, gan gynnwys ansicrwydd ynghylch pwy sydd orau i fynd i'w weld, neu'n ei chael yn haws neu'n fwy cyfleus mynd at y meddyg teulu.

Byddem yn annog pobl i fynd i weld y deintydd bob tro, yn hytrach na'r meddyg teulu, os oes ganddynt broblem gyda'u dannedd neu'r gymiau, neu feinweoedd meddal eu ceg. Nid yw meddygon wedi'u hyfforddi nac yn meddu ar y cyfarpar ar gyfer diagnosio a thrin problemau deintyddol. O ganlyniad, mae'n ddigon posibl na fydd pobl sy'n mynd i weld meddyg gyda phroblem ddeintyddol yn cael y math gorau o ofal ar gyfer eu cyflwr.

Dr Anwen Cope Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus Iechyd Deintyddol y Cyhoedd

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn awgrymu bod angen goresgyn rhwystrau sy'n atal mynediad at ofal deintyddol, yn ogystal ag ehangu mynediad at wasanaethau gofal deintyddol brys i gleifion sydd heb ddarparwr gofal deintyddol rheolaidd.

Yn ôl Dr Anwen Cope: “Mae cleifion yn mynd at eu meddyg i sôn am eu problemau deintyddol am sawl rheswm ac, yn yr un modd, nid oes un ateb i wneud yn siŵr eu bod yn mynd at eu hymarferydd deintyddol yn lle hynny. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn awgrymu y byddai galluogi mynediad at ofal brys ac amserol i gleifion, a chynnig gwybodaeth hygyrch a dibynadwy ynghylch ble i gael gafael ar ofal ar gyfer cyflyrau cyffredin yn y geg, ynghyd â'r costau cysylltiol, yn lle da i ddechrau.

Mae’r astudiaeth, 'Rhesymau cleifion dros ymgynghori â meddyg teulu ynghylch problem ddeintyddol: astudiaeth ansoddol' wedi'i chyhoeddi yn y British Journal of General Practice, ac fe'i hariannwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygol a Llawfeddygon Glasgow.

https://youtu.be/RYjiIV7oGmU

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw unig ysgol ddeintyddiaeth Cymru, sy’n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion.