Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid newydd i helpu i gael hyd i therapïau newydd ar gyfer canser gastrig

19 Hydref 2018

Dr Toby Phesse in his lab with Chloe Austin, Sarah Koushyar and Valarie Meniel

Bydd buddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn helpu gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i strategaethau triniaeth newydd ar gyfer canser gastrig.

Mae dros £600,000 wedi cael ei ddyfarnu i Labordy Dr Toby Phesse yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, ym Mhrifysgol Caerdydd, i ariannu’r gwaith yno sy’n edrych ar rôl signalau celloedd ym maes canser.

“Canser gastrig yw’r pedwerydd achos mwyaf cyffredin o farwolaeth cysylltiedig â chanser, gyda diagnosis o ryw 700,000 o achosion bob blwyddyn.  Mae angen i ni fynd ati ar frys i ddatblygu gwell therapïau canser i wella’r canlyniadau i gleifion.

“O gymharu ag organau eraill, fel y coluddion neu’r fron, nid oes lefel dda o ddealltwriaeth o sut mae meinwe’r stumog yn gweithio.  Trwy ddeall pa fecanweithiau cellog a moleciwlaidd sydd ar waith mewn achosion o ganser, gallwn ni ganfod targedau therapiwtig newydd ar gyfer y clefyd hwn.

“Rydym wedi bod yn edrych ar sut mae celloedd yn cyfathrebu â’i gilydd ym meinwe’r stumog, ac yn benodol ar sut maen nhw’n defnyddio llwybr signalau celloedd o’r enw signalau Wnt.  Mae deg derbynnydd gwahanol yn ymwneud â’r llwybr signalau hwn, sef derbynyddion ‘Frizzled’.

“Mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr rhyngwladol Elizabeth Vincan yn Awstralia, Nick Barker yn Singapôr a Hans Clevers yn yr Iseldiroedd, buom ni’n dangos yn ddiweddar mai un o’r derbynyddion ‘Frizzled’, Fzd7, yw’r prif dderbynnydd sy’n trosglwyddo signalau Wnt hanfodol i reoleiddio swyddogaeth y bôn-gelloedd yn y coluddyn a’r stumog”, meddai Dr Toby Phesse, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ariannu gwaith ymchwil i benderfynu a oes modd targedu Fzd7 i drin canser gastrig.

“Dengys y data rhagarweiniol fod modd rhwystro twf tiwmorau gastrig trwy ddileu Fzd7 yn enetig, ac mae hynny’n golygu y gallai fod yn darged ar gyfer triniaeth newydd i ganser gastrig.  Ein nod bellach yw adeiladu ar y canlyniadau cyffrous hyn trwy ddefnyddio sawl model rhag-glinigol o ganser gastrig wrth dargedu Fzd7, ac archwilio’r mecanwaith moleciwlaidd sy’n sylfaen ar gyfer yr arsylwadau hyn er mwyn deall bioleg y clefyd hwn yn well.

“Gan ddefnyddio’r cyllid hwn ac mewn cydweithrediad â’n partneriaid diwydiannol Oncomed Pharmaceuticals, rydym hefyd yn edrych i weld a oes gan wrthgorff sy’n targedu Fzd effeithiau gwrth-diwmor yng nghyswllt canser gastrig.

“Mae’r gwrthgorff hwn, Vantictumab, eisoes mewn treialon clinigol ar gyfer canser y fron a’r ysgyfaint, a bydd ein hastudiaethau rhag-glinigol yn llywio treialon clinigol newydd posibl yn uniongyrchol er mwyn defnyddio’r cyffur hwn ar gyfer cleifion canser gastrig.

“Mae’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropaidd yn elusen, ac felly mae’n dibynnu ar gefnogaeth i barhau â’i waith yn ymchwilio i strategaethau therapiwtig newydd mewn amrywiaeth o ganserau. Bydd y cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ein helpu i barhau â’r gwaith ymchwil hwn, sy’n trawsnewid sut rydym ni’n trin canser, ac yn symud at ddull gweithredu mwy targedig” ychwanegodd Dr Toby Phesse.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.